Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Bachgen yn ei arddegau a adawodd pedwar ag anafiadau difrifol mewn gwrthdrawiad yn cael dedfryd 20 mis ohiriedig a gwaharddiad gyrru
Roedd Jack Hale, 19, yn gyrru ei Ford Fiesta pan wnaeth wrthdaro â’r maes gwersylla adnabyddus a phoblogaidd yn Niwgwl, Sir Benfro ar Awst 12 2023.
Tra’n gyrru ar gyflymder ar hyd yr A487, collodd Hale reolaeth ar y cerbyd, gan fflipio a rholio, lle y gwrthdarodd â phabell yn y maes gwersylla, gan anafu yn ddifrifol pedwar o bobl.
Yn dilyn ei ble euog I bedwar cyhuddiad o achosi anafiadau difrifol trwy yrru’n beryglus ar ddydd Mawrth, Mehefin 17, 2025, fe ymddangosodd Hale yn Llys y goron Abertawe Heddiw (Dydd Gwener, Gorffennaf 11) lle cafodd ei ddedfrydu i 20 mis mewn sefydliad troseddwyr ifanc, wedi ei ohirio am 18 mis. Cafodd hefyd waharddiad gyrru am ddwy flynedd gyda gofyniad I basio prawf gyrru estynedig a chwblhau 250 awr o waith di-dâl.
Dywedodd y Barnwr Anrhydeddus Huw Rees fod cyflymder gyrru Hale yn sylweddol ormodol.
Ychwanegodd Rhingyll yr Heddlu Sara John: “Roedd hwn yn ddigwyddiad trawmatig iawn i’r holl ddioddefwyr ac mae’n parhau i gael effaith ddofn arnyn nhw. Ein gobaith yw fod y ddedfryd heddiw yn darparu elfen o gloi i’r rhai â effeithwyd ac yn atgoffa pawb o ganlyniadau gyrru’n beryglus.”