Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Torrodd Bobby England, 34 oed o Langynnwr, Caerfyrddin orchymyn atal pan ddaeth i gartref ei ddioddefwr yn mynnu ei fod yn cael ei gist offer.
Gwaeddodd eiriau anweddus arni cyn iddi lwyddo i ffonio 999 am gymorth.
Yr wythnos flaenorol, ar 9 Mehefin 2025, ymddangosodd England gerbron Llys Ynadon Llanelli wedi iddo gael ei gyhuddo o ymosod trwy guro ar ôl iddo benio’r ddioddefwraig a chleisio ei braich.
Rhoddodd yr ynadon orchymyn amddiffyn rhag aflonyddu iddo a barodd am ddwy flynedd, a oedd yn nodi na ddylai gysylltu â’i gyn-gariad na mynd i’w chartref.
Fodd bynnag, o fewn wythnos iddo gael ei ddedfrydu, roedd wedi torri’r gorchymyn ac wedi mynd yn ôl i dŷ ei ddioddefwr, ddeng munud yn unig wedi iddi gyrraedd adref ar ôl bod yn aros gyda ffrindiau. Roedd wedi bod yn rhy ofnus i fod ar ei phen ei hun yn dilyn ei gyfnod yn y ddalfa yn ystod yr achos llys yr wythnos flaenorol.
Clywodd y llys fod y ddioddefwraig wedi clywed sŵn cnocio ar ei drws ac wedi meddwl mai’r heddlu oedd yno yn gwneud gwiriadau diogelwch. Fodd bynnag, pan agorodd y drws, ei throseddwr oedd yno.
Yn amlwg yn ofidus ac yn ofnus, cysylltodd â’r heddlu, a gyrhaeddodd y lleoliad yn gyflym.
Diolch i feddwl cyflym y ddioddefwraig ac ymateb cyflym y swyddogion, cafodd England ei arestio 30 munud wedi i’r swyddogion gael eu hanfon.
Cafodd ei gadw yn y ddalfa cyn mynd i Lys Ynadon Llanelli ar 18 Fehefin.
Plediodd England yn euog i gyhuddiad o dorri gorchymyn atal. Cafodd ei ddedfrydu i 12 wythnos yn y carchar, wedi’i ohirio am 12 mis, a rhaid iddo dalu £85 mewn costau llys, gordal dioddefwr o £154, a bydd yn cael ei fonitro’n electronig gyda thag am chwe mis. Plediodd yn euog hefyd o fod â chanabis / resin canabis yn ei feddiant.
Ers hynny, mae’r ddioddefwraig wedi cael cynnig cyngor a chymorth diogelu ac wedi’i chyfeirio at asiantaethau cymorth trais domestig.
Mae mesurau wedi’u rhoi ar waith i helpu’r ddioddefwraig i deimlo’n fwy diogel yn ei chartref, gan gynnwys trwsio ei drws a’i chloeon. Cafodd larwm panig a chloch drws di-wifr hefyd, a chymerwyd camau diogelu pellach. Nod mesurau diogelu o’r fath yw sicrhau nad yw dioddefwyr cam-drin domestig yn teimlo’r angen i ffoi o’u cartrefi a’r cymunedau y maent yn byw ynddynt, a’u bod yn teimlo’n fwy diogel yn eu cartrefi.
Dywedodd Cwnstabl Bethan Morris:
“Gyda diolch i weithredu chwim ein swyddogion a’r dewrder a ddangosodd y dioddefydd wrth adrodd am y drosedd, fe wnaethom arestio a chadw’r troseddwr o fewn 30 munud i’r swyddogion gael eu hanfon allan.
“Mae hyn yn dangos ymrwymiad yr Heddlu i ddileu trais domestig yn ein cymunedau drwy ddiogelu dioddefwyr a sicrhau bod troseddwyr yn dod gerbron llys yn gyflym.
“Ni ddylai unrhyw un fyw mewn ofn yn eu cartref eu hunain a byddwn yn parhau i weithio gyda’n partneriaid i ddarparu mesurau diogelu er mwyn i ddioddefwyr deimlo’n fwy diogel yn ogystal â’u cyfeirio at sefydliadau cefnogi cenedlaethol a lleol.
“Rydym yn annog unrhyw un sy’n dioddef trais domestig i adrodd am hynny i ni.”
Os ydych chi’n byw gyda cham-drin domestig yn y cartref neu mewn perthynas fygythiol ac eisiau adrodd amdano, gallwch gysylltu â ni yn y ffyrdd canlynol:
💻 https://bit.ly/DPPContactOnline
📞 101
Os nad ydych yn barod i adrodd amdano, neu os oes angen cefnogaeth arnoch i siarad, mae sefydliadau a all helpu. Ewch i Sefydliadau cymorth i ddioddefwyr trais domestig | Heddlu Dyfed-Powys