Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Bob wythnos, mae pobl ifanc rhwng 13 a 17 oed yn rhoi o’u hamser eu hunain i fynychu Cadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu yn y Drenewydd, Caerfyrddin, Aberhonddu, Llanelli, Rhydaman, a Doc Penfro.
Mae’r cynllun yn rhaglen rhad ac am ddim a gydnabyddir yn genedlaethol sy’n rhoi cyfle i bobl ifanc wneud ffrindiau, datblygu sgiliau arwain, ymgysylltu â’r heddlu a chyfrannu’n gadarnhaol at y gymuned.
Mae’r cadetiaid yn cymryd rhan mewn rhaglen strwythuredig ddwy awr yr wythnos, sy’n cael ei harwain gan Arweinwyr Cadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu, gan gynnwys swyddogion heddlu, staff yr heddlu a gwirfoddolwyr allanol, ac yn helpu i wella’r berthynas rhwng y cyhoedd a’r heddlu.
Y nod yw paratoi pobl ifanc ar gyfer eu dyfodol trwy ddarparu gweithgareddau a chyfleoedd amrywiol i ddatblygu a gwella sgiliau rhyngbersonol a hyder, wrth gael ymdeimlad o falchder trwy gefnogi plismona cymunedol.
Dywedodd Rhian Curtis, Swyddog Cadetiaid Gwirfoddol Heddlu Dyfed-Powys:
“I ddathlu Wythnos Gwirfoddolwyr hoffem ni ddiolch i’n holl Gadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu am eu brwdfrydedd, eu hymrwymiad a’u hymroddiad i blismona.
“Bob wythnos, maen nhw’n rhoi o’u hamser i helpu i wneud gwahaniaeth yn eu hardaloedd lleol, ac maen nhw’n haeddu cael eu cydnabod.
“Weithiau, mae pobl ifainc yn cael eu labelu’n annheg fel achos ymddygiad gwrthgymdeithasol, ond mae ein cadetiaid yn fodelau rôl. Pobl ifainc ydynt sydd eisiau helpu i wneud cyfraniad cadarnhaol i’w cymunedau.”
Rydym ni’n siarad â rhai o Gadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu o’r Drenewydd ac yn holi sut beth yw bod yn rhan o’r cadetiaid, beth maen nhw’n ei fwynhau a pham maen nhw’n gwirfoddoli.
“Rydw i wedi bod yn y cadetiaid ers bron i dair blynedd ar ôl i fy mam weld hysbyseb ar Facebook. Ymunais i i ddatblygu fy nealltwriaeth i o’r heddlu, ond hefyd i godi fy hyder. Rydw i wedi dysgu llawer am y gwahanol rolau yn yr heddlu, ac rydw i’n bwriadu ychwanegu hynny at fy CV.
“Mae cadetiaid yr heddlu yn gwneud i fi fod yn ymwybodol o wirfoddolwyr eraill, a sut maen nhw’n helpu’r gymuned. Rydw i wrth fy modd yn gwybod y galla i helpu’r gymuned. Rydw i’n mwynhau cwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau newydd. Mae’n braf teimlo ein bod ni’n chwarae rhan yn y gymuned.
“Fy moment fwyaf cofiadwy a balch oedd cael tystysgrif am fy ngwaith i yng ngorymdaith Dydd y Cofio ar ôl i fi ddarllen enwau’r milwyr a fu farw. Mae bod yn gadet yr heddlu werth chweil.” Nansi.
“Mae gwirfoddoli’n rhoi llawer o foddhad. Rydw i’n teimlo fy mod i’n deall y gymuned yn well ers ymuno â’r cadetiaid. Ymunais i â chadetiaid yr heddlu oherwydd fy mod i am fod yn rhan o’r heddlu erioed, ac mae bod yn y cadetiaid yn gwneud i fi deimlo’n agosach at fod yn yr heddlu. Fe wnes i fwynhau mynd ar ymweliad â’r ddalfa i weld beth sy’n digwydd yno. Rydw i’n hoffi siarad â phobl newydd pan rydyn ni’n mynd i wahanol leoedd. Mae’r cadetiaid yn rhoi llawer o foddhad, a byddwn i’n annog pobl ifanc eraill i ymuno.” Steve.
“Roeddwn i am ymuno â’r cadetiaid oherwydd rydw i eisiau bod yn swyddog heddlu gan fy mod i’n hoffi helpu pobl. Clywais i am y cadetiaid yn yr ysgol a gan hen ffrindiau. Rydw i am gael dealltwriaeth well o’r hyn y mae’r heddlu’n ei wneud yn y gymuned. Mae’n teimlo’n wych gwybod y galla i helpu i wneud newid cadarnhaol yn y gymuned. Rydw i wedi mwynhau’r holl brofiadau, a’u rhannu â grŵp gwych o bobl sydd wedi dod yn ffrindiau.
“Dim ond ychydig fisoedd yn ôl ymunais i, ac roedd fy sesiwn gyntaf i’n gofiadwy gan ein bod ni wedi defnyddio radios yr heddlu. Mwynheais i ymweld â llys yr ynadon hefyd. Mae bod yn gadet yn gwneud ichi deimlo’n dda amdanoch chi’ch hun, a byddwn i’n bendant yn argymell bod yn gadet heddlu.” Mia.
“Rydw i wedi bod yn y cadetiaid ers wyth mis, ac ymunais i oherwydd bod gen i ddiddordeb yn yr heddlu. Rydw i’n gobeithio cael mwy o wybodaeth am yr heddlu, ac rydw i’n hoffi dysgu mwy am fy nghymuned i. Mae’n gwneud i fi deimlo’n dda ein bod ni’n gallu helpu. Rydw i’n mwynhau dod i nabod pobl newydd.” Cheyne.
“Rydw i wedi bod yn y cadetiaid ers bron i flwyddyn, ac ymunais i gan fy mod i am roi cynnig ar rywbeth newydd. Rydw i’n ei chael hi’n wych ar gyfer codi hyder wrth siarad yn gyhoeddus mewn lleoedd newydd. Rydw i’n hoffi cael cyfle i ddysgu am bethau newydd, a chymdeithasu â phobl newydd.” Julia.
“Rydw i wir yn hoffi bod yn gadet oherwydd mae modd gwneud ffrindiau sydd â’r un diddordebau â chi, sy’n gallu bod yn anodd iawn. Rydw i’n hoffi creu atgofion gyda’r bobl yn y cadetiaid, ac rydw i’n hoffi cwrdd â gwahanol bobl o’r heddlu. Ymunais i oherwydd fy mod i am fod yn dditectif a helpu pobl. Des i o hyd i wybodaeth am y cadetiaid yn yr ysgol. Mae’n edrych yn dda ar fy CV, ac rydw i’n ei fwynhau’n fawr iawn. Fe wnes i fwynhau’r sesiwn i ymweld â’r ddalfa yn fawr iawn, dyma’r sesiwn fwyaf cofiadwy i fi hyd yn hyn.” Aimee.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn recriwtio Cadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu newydd ar draws yr heddlu. Am fwy o wybodaeth, ewch i Gadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu | Heddlu Dyfed-Powys