Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ar ddydd Sul 8fed Mehefin, cynhaliodd swyddogion plismona ffyrdd o Heddlu Dyfed-Powys ddiwrnod ymgysylltu cymunedol llwyddiannus yn Crossgates fel rhan o Ymgyrch Apex, ymgyrch diogelwch ffyrdd bwrpasol gyda'r nod o leihau gwrthdrawiadau sy'n gysylltiedig â beiciau modur ar draws Dyfed-Powys.
Rhoddodd y digwyddiad, a gynhaliwyd mewn man cyfarfod poblogaidd i feicwyr, gyfle i swyddogion siarad yn uniongyrchol â beicwyr modur am faterion diogelwch allweddol, gan gynnwys ymwybyddiaeth o gyflymder, offer amddiffynnol, a phwysigrwydd aros yn weladwy ar y ffordd. Dyam oedd y digwyddiad cyhoeddus cyntaf i feic Ymgyrch Apex newydd yr heddlu - BMW S1000XR - a fydd yn cael ei ddefnyddio i gefnogi ymdrechion diogelwch parhaus ac ymgysylltu cymunedol ar draws y llu.
Ochr yn ochr â'n swyddogion, gwelodd y diwrnod gyfranogiad gweithredol gan bartneriaid gan gynnwys:
Mynegodd beicwyr ddiddordeb cryf hefyd yn BikeSafe, gyda llawer yn gofyn am wybodaeth ar sut i archebu lle ar gwrs. Roedd yr adborth gan y beicwyr yn hynod gadarnhaol, gan atgyfnerthu nodau'r ymgyrch o wella gwybodaeth beicwyr a lleihau risg ar y ffyrdd.
Dywedodd y Rhingyll Plismona Ffyrdd, David Hawksworth:
"Rydym yn falch o weld cymaint o ddiddordeb a chefnogaeth gan y gymuned feicio. Mae Ymgyrch Apex yn ymwneud â gweithio gyda'n gilydd i wneud beicio'n fwy diogel ac yn fwy pleserus i bawb. Mae digwyddiadau fel hyn yn dangos pa mor bwerus y gall ymgysylltu wyneb yn wyneb fod.
"Mae'r ymgyrch hon yn ymwneud ag achub bywydau. Mae beicwyr modur yn parhau i fod yn un o'r grwpiau mwyaf agored i niwed ar ein ffyrdd, ac Ymgyrch Apex yw ein ffordd ni o ymgysylltu â'r gymuned feicio i hyrwyddo arferion beicio mwy diogel ac annog cyfrifoldeb ar y cyd."
Cynhelir digwyddiad nesaf Ymgyrch Apex ddydd Sul 22 Mehefin yn y Bandstand ar y Promenâd yn Aberystwyth, mewn partneriaeth â Thîm Diogelwch Ffyrdd Cyngor Ceredigion, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, a Beiciau Gwaed Cymru.
Bydd Ymgyrch Apex yn parhau drwy gydol yr haf, gyda digwyddiadau pellach a phatrolau wedi'u targedu wedi'u cynllunio mewn ardaloedd problemus.
Am ragor o wybodaeth am ddiogelwch beiciau modur a digwyddiadau Ymgyrch Apex sydd i ddod, ewch i'n tudalen Ymgyrch Apex.