Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Datblygwyd Ymgyrch Apex â’r nod cyffredinol o leihau nifer y beicwyr modur sy’n cael eu lladd a’u hanafu’n ddifrifol ar ein ffyrdd drwy fabwysiadu ymagwedd genedlaethol.
Mae’r ymgyrch yn annog beicwyr modur i dreulio amser yn buddsoddi yn eu hunain er mwyn dod yn feicwyr modur mwy hyddysg, drwy ganolbwyntio ar sgìl, dillad, a hyrwyddo cyrsiau uwch wrth reidio’r ffyrdd yn Nyfed-Powys.

Os ydych chi'n rhan o'r gymuned beiciau modur, cymerwch gwpl o funudau i gwblhau ein harolwg Ymgyrch Apex. Bydd yn cymryd tua munud i'w gwblhau.
⚠ Yn 2024, roedd 21% o'r rhai a laddwyd mewn gwrthdrawiadau traffig yn feicwyr modur (cynnydd o 9% ar 2023)
Rhwng 2019 a 2023:

Lluniwyd Beicio Diogel Dyfed-Powys i gynyddu eich dealltwriaeth o’ch gallu eich hun a sut mae cael hyd i ffyrdd o wella, fel eich bod chi’n medru cael mwy o foddhad o reidio eich beic modur. Drwy ddarparu adborth wedi’i strwythuro, a throsglwyddo eu gwybodaeth, sgiliau a phrofiad, gall beicwyr modur yr heddlu eich helpu i ddod yn feiciwr modur mwy diogel a chymwys.
Bob blwyddyn yn Nyfed-Powys, mae nifer annerbyniol o feicwyr modur yn cael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol. Gan edrych ar ‘flwyddyn dda’ (2012), tra bod beicwyr modur yn cynrychioli dim ond 0.8% o draffig yng Nghymru, fe wnaethant gynrychioli 37% o ddamweiniau difrifol ac angheuol.
Ymunwch â ni ar weithdy Beicio Diogel a dysgwch sut i beidio â dod yn ystadegyn!
Heddlu Dyfed-Powys – Beicio Diogel
Biker Down! Cymru yw cwrs 3 awr rhad ac am ddim ar gyfer beicwyr modur sy'n dymuno ehangu eu gwybodaeth a'u profiad o ddelio â digwyddiadau neu wrthdrawiadau a allai fod angen cymorth cyntaf ar ymyl y ffordd.
Mae’n cynnwys tri modiwl:
Modiwl 1 – Rheoli Lleoliad Digwyddiad – rheoli’r lleoliad nes bod cymorth yn cyrraedd, asesiad risg a chamau gweithredu priodol.
Modiwl 2 – Gofal Anafiadau – sut i drin y trawma nodweddiadol a mecanwaith anaf a geir yn lleoliad digwyddiad yn ymwneud â beiciau modur, gan gynnwys gwaedu mawr a chynnal bywyd sylfaenol, rheoli anafiadau i’r asgwrn cefn, tynnu helmed a CPR.
Mae Modiwl 3 – Y Wyddoniaeth o Gael Eich Gweld – yn rhoi rhywfaint o fewnwelediad i pam nad yw beicwyr modur weithiau’n cael eu gweld ar y ffordd ac yn bwysicach fyth beth allwn ni ei wneud i frwydro yn erbyn hyn.

Menter Albanaidd yw Gwybodaeth Ganfyddiadol am Feicwyr ar gyfer Gwneud y Mwyaf o Arbenigedd a Mwynhad a luniwyd i helpu beicwyr modur i wneud penderfyniadau gwell wrth agosáu at droeon i’r chwith. Mae’r fenter wedi cael llwyddiant mawr yn yr Alban. Ar y cyd â Llywodraeth Cymru a Heddlu Gogledd Cymru, mae marcio Gwybodaeth Ganfyddiadol am Feicwyr ar gyfer Gwneud y Mwyaf o Arbenigedd a Mwynhad yn cael ei dreialu yn Nyfed-Powys ar yr A483.
Dylai hyn fod mewn grym erbyn Gorffennaf 2025.
Darllenwch fwy am PRIMEs, yma.

Wrth reidio, ystyriwch pa ddillad rydych chi’n gwisgo. Gallai’ch helmed, dillad lledr, esgidiau a menyg achub eich bywyd os fyddwch chi fyth yn ddigon anffodus i fod yn gysylltiedig â gwrthdrawiad.
Buddsoddwch yn eich hun a phrynwch yr holl ddillad perthnasol sydd eu hangen ar gyfer beicio modur.
Fel gydag unrhyw gerbyd, fe’ch cynghorwn i reidio yn ôl yr amodau tywydd sy’n eich wynebu bob dydd.
Y peth olaf fyddwch chi’n teimlo fel gwneud yn yr haf yw gwisgo sawl haen o ddillad lledr, ond mae angen ichi fod yn barod. Peidiwch byth â mynd allan mewn crys T, trowsus byr a fflip-fflops.
Archwiliwch eich teiars cyn mynd allan a gwiriwch hylifau’r beic modur hefyd. Cynlluniwch eich taith a chymerwch ddigon o seibiannau. Yfwch lwyth o ddŵr, a phan fyddwch chi’n stopio, ceisiwch barcio’ch beic yn y cysgod, gan y bydd y sedd, y paent a’r plastig yn dioddef os fyddwch chi’n ei adael yn yr haul yn rhy hir.
Yn ystod misoedd y gaeaf, mae’n hollbwysig cadw’n gynnes. Mae dillad beicio modur â phadin ar gael, ond os na allwch eu fforddio, yna sicrhewch eich bod chi’n gwisgo haenau ychwanegol, a gwnewch yr haen allanol yn un wrth-ddŵr. Cadwch sawl pâr o fenyg wrth law, gan y bydd yn difethaf eich profiad beicio am y dydd os bydd un pâr yn gwlychu, a cheisiwch roi eich helmed ymlaen dan do fel nad yw’n niwlo.
Wrth reidio mewn tywydd oer, gwnewch eich holl waith mewn llinell syth a byddwch yn gymedrol wrth ddefnyddio’r rheolyddion - osgowch frecio a chyflymu’n galed gydag ongl pwyso. Bydd system frecio wrth-gloi a rheolaeth tyniant yn eich atal rhag llithro mewn llinell syth. Wrth gornelu, symudwch eich pen a’ch ysgwyddau i’r gornel gyda’r fraich fewnol wedi’i phlygu er mwyn uchafu gafael a theimlad. Wrth adael corneli, gwasgwch y sbardun yn ysgafn ac arhoswch i’r pwysau drosglwyddo i’r cefn, yna weindiwch y sbardun ymlaen yn raddol.
Po fwyaf o weithiau fyddwch chi’n gyrru, reidio, cerdded neu feicio ar hyd llwybr, y mwyaf cyfarwydd fyddwch chi’n dod â’r ardal. Byddwch chi’n disgwyl bod car wedi’i barcio mewn man penodol, neu lawer o draffig ar amser penodol, a pho fwyaf y byddwch chi’n defnyddio’r llwybrau hyn, y mwyaf cyfforddus fyddwch chi’n teimlo’n teithio ar eu hyd.
Mae hyn ond yn golygu bod angen ichi fod yn arbennig o wyliadwrus wrth deithio. Peidiwch â chymryd yn ganiataol y bydd popeth yr un fath bob dydd. Y cyfan mae’n cymryd yw i feiciwr pedal reidio’r ffordd honno, cerbyd gwasanaeth brys i fflachio ei oleuadau glas, neu blentyn i gerdded ar y ffordd. Mae angen ichi fod yn wyliadwrus bob amser.
Mae crefft yn perthyn i gario teithiwr ar feic modur. Y cam cyntaf yw sicrhau ei fod yn gwisgo’r dillad cywir – o leiaf helmed sy’n ffitio’n gywir, siaced arfog, menyg priodol ac esgidiau arddull top uchel, ynghyd â’r holl ddillad sy’n ofynnol ar gyfer beicio modur.
Rhowch wybodaeth iddo ac esboniwch beth mae’n mynd i deimlo a sut fydd y beic yn ymateb i’ch symudiadau. Dywedwch wrtho y dylai ddal gafael pan mae’r beic modur yn symud, naill ai drwy estyn tu ôl iddo i ddal y dolenni gafael piliwn, neu drwy lapio ei freichiau o gwmpas gwast y beiciwr modur.
ROSPA - Cyrsiau hyfforddi beiciau modur
IAM RoadSmart - Hyfforddiant Uwch Reidiwr
Diogelwch Ffyrdd Cymru - Dewch o hyd i gwrs yn eich ardal chi