Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Fel rhan o Ymgyrch Ivydene, ymgyrch sy’n ceisio mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ar draws ardal yr heddlu, mae Cadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu wedi bod yn dosbarthu taflenni mewn mannau problemus o ran ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Llanelli, Caerfyrddin a Rhydaman.
Hyd yn hyn, mae bron i 2,000 o daflenni wedi’u dosbarthu, sy’n annog trigolion i gwblhau holiadur byr a rhoi adborth i helpu swyddogion i ymateb yn well i anghenion cymunedol.
Mae’r cadetiaid wedi cyflawni bron i 100 awr o wirfoddoli rhyngddynt a bydd rhagor o daflenni’n cael eu dosbarthu yn Rhydaman dros yr wythnosau nesaf.
Mae cynllun cadetiaid yr heddlu yn rhaglen am ddim a gydnabyddir yn genedlaethol sy’n rhoi cyfle i bobl ifanc rhwng 13 a 17 oed wneud ffrindiau, datblygu sgiliau arwain, ymgysylltu â’r heddlu a chyfrannu’n gadarnhaol yn y gymuned.
Maent yn cymryd rhan mewn rhaglen strwythuredig am ddwy awr bob wythnos mewn gwahanol leoliadau ar draws ardal yr heddlu ac yn helpu i wella’r berthynas rhwng y cyhoedd a’r heddlu.
Dywedodd Rhian Curtis, Swyddog Cadetiaid Gwirfoddol Heddlu Dyfed-Powys:
“Yn aml iawn mae pobl ifanc yn eu harddegau yn cael eu labelu’n annheg fel rhai sy’n achosi ymddygiad gwrthgymdeithasol, ond mae ein cadetiaid yn profi y gall pobl ifanc fod yn rhan o’r ateb i’r broblem. Maent yn ymroddedig, yn frwdfrydig ac yn awyddus i wneud gwahaniaeth yn eu hardaloedd lleol.
“Rhan o nod y cadetiaid yw cefnogi polisïau plismona lleol trwy wirfoddoli ac mae Ymgyrch Ivydene yn dod o fewn y cylch gorchwyl hwn.
“Rydym yn annog trigolion i lenwi’r arolwg, a fydd nid yn unig yn rhoi adborth i’r heddlu ond hefyd yn dangos i’r cadetiaid pa mor fuddiol fu eu gwaith caled.
“Trwy gymryd camau rhagweithiol i gefnogi ymgyrch atal troseddu ac ymgysylltu â’r gymuned, mae’r cadetiaid yn dangos y gall pobl ifanc chwarae rhan hanfodol wrth feithrin cymdogaethau mwy diogel.”
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn recriwtio’n barhaus am gadetiaid gwirfoddol newydd ar draws yr heddlu.
Am fwy o wybodaeth am sut i gymryd rhan a gwneud gwahaniaeth cliciwch yma