Stamp amser presennol: 03/08/2026 14:11:10
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

Dyfed Powys force crest

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio bod person ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith, protest neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Cysylltu â ni i riportio trosedd, digwyddiad neu amheuaeth
    • Cysylltu â ni am rywbeth arall
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

Mae planhigion canabis sy'n werth dros £860,000 wedi’u hatafaelu yn ystod gwrthdaro ar gynhyrchu cyffuriau

Cynnwys y prif erthygl

Ceredigion Powys Sir Gaerfyrddin
Cyhoeddwyd: 17:45 06/03/2025

Op Mille Facebook and SOH photo cym.png

Op Mille PR cym

Mae planhigion canabis gwerth dros £860,000 wedi’u hatafaelu o eiddo yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Phowys mewn un wythnos yn unig wrth i’r heddlu barhau i fynd i’r afael â chynhyrchu cyffuriau ar raddfa ddiwydiannol.  

Cymerodd Heddlu Dyfed-Powys ran yn Ymgyrch Mille 3 – ymgyrch blismona genedlaethol wythnos o hyd wedi’i hanelu at aflonyddu ar ffatrïoedd canabis mawr a sefydlwyd gan rwydweithiau troseddu trefnedig – gyda gweithgarwch yn profi’n llwyddiannus iawn.

Dros saith diwrnod, cynhaliwyd cyrch ar chwe eiddo, gyda saith o bobl yn cael eu harestio. Cyhuddwyd chwe ohonynt o gynhyrchu canabis.

Chwaraeodd timoedd a oedd yn cynnwys CID, swyddogion plismona rhagweithiol, plismona bro ac atal, ymateb arfog, trinwyr cŵn a pheilotiaid drôn oll eu rhan yn y gweithgarwch.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Rich Lewis: “Mewn un wythnos yn unig, rydyn ni wedi atafaelu a dinistrio swm sylweddol o ganabis, sy’n siŵr o fod wedi aflonyddu ar weithgarwch troseddu trefnedig yn Nyfed-Powys a thu hwnt.

“Mae tyfu canabis ar raddfa fasnachol yn broblem rydyn ni wedi wynebu dros y flwyddyn ddiwethaf yn Nyfed-Powys, ond rydyn ni’n cymryd ymagwedd gadarn tuag at ei dileu. Rydyn ni o hyd yn asesu cudd-wybodaeth o gwmpas ble mae’r ffatrïoedd hyn yn cael eu sefydlu, a phwy sy’n gysylltiedig â’u sefydlu a’u cynnal, gan weithredu ar frys pan mae gennym ddigon o dystiolaeth."

Op Mille drone

Canlyniadau Ymgyrch Mille

Op Mille Llanelli entry.jpg

Dechreuodd gweithredu’r wythnos ddydd Llun 17 Chwefror, pan ddefnyddiodd swyddogion rym i gael mynediad i dŷ ar Stryd Cambrian, Llanelli. Awgrymodd cudd-wybodaeth fod llawer iawn o ganabis yn cael ei dyfu yn y tŷ teras, a sylwodd swyddogion ar arogl cryf tu mewn yn syth. Arestiwyd dyn 26 oed ar amheuaeth o gynhyrchu canabis, a dechreuodd y tîm plismona rhagweithiol chwilio’r eiddo.

Daeth yn amlwg yn fuan bod y tŷ’n cael ei ddefnyddio fel ffatri ganabis, gyda phlanhigion aeddfed wedi’u canfod mewn pum ystafell – y gegin, tair ystafell wely, a’r atig. Roedd cwtsh dan stâr hefyd yn cael ei ddefnyddio i dyfu planhigion bach. Amcangyfrifwyd eu bod nhw ond pythefnos i ffwrdd o gael eu hamaethu. Atafaelwyd cyfanswm o 179 planhigyn, gyda gwerth posibl o hyd at £61,600 ar y stryd.

Gadawyd y tŷ – eiddo rhent – mewn cyflwr peryglus o ganlyniad i ddwyn trydan. Roedd gan bob ystafell oleuadau a dwythellau awyru’n hongian o’r nenfydau, balastau tyfu wedi’u gosod ar y waliau, a gorchuddion ar y lloriau a’r waliau. Roedd ffenestri allanol wedi’u gorchuddio, fodd bynnag, roedd bleindiau arnynt er mwyn rhoi’r argraff bod popeth yn normal.

Cyhuddwyd Muhammed Sulaj o gynhyrchu canabis, ac fe fydd yn ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ar 21 Mawrth.

Op Mille Llanelli plants.jpg

Op Mille dog van.jpg

Y diwrnod canlynol, gweithredwyd gwarant mewn eiddo gwledig tu allan i Gydweli, gyda ditectifs, trinwyr cŵn, a thimoedd plismona bro ac atal yn bresennol. Cafwyd mynediad i’r iard drwy ffens weiren bigog, ac arestiwyd y perchennog cartref, Martin Evans – a gafodd ei ganfod mewn cartref symudol – ar amheuaeth o gynhyrchu canabis.

Ar ôl mynd mewn trwy ddrws ochr y tŷ fferm, y peth cyntaf a welodd swyddogion oedd ystafell wely fach dros dro a oedd yn cynnwys gwely, popty ac oergell, lle y daethant o hyd i un dyn, Fatjon Xhafa. Tu hwnt i’r ystafell honno, lle’r oedd Xhafa yn byw, roedd y tŷ cyfan yn llawn planhigion canabis mewn cyfnodau tyfu gwahanol, ynghyd â deunydd tyfu, goleuadau ac offer awyru.

Wrth i un tîm chwilio’r adeilad er mwyn sicrhau nad oedd neb arall yn bresennol, cafodd un arall fynediad i gynhwysydd cadw allanol, lle y daethpwyd o hyd i nifer o blanhigion llai.

Atafaelwyd cyfanswm o 194 blanhigion i’w difa, gyda gwerth amcangyfrifol o hyd at £264,100.

Cyhuddwyd Fatjon Xhafa o gynhyrchu canabis, ac ymddangosodd yn Llys Ynadon Lanelli lle na chyflwynodd ble. Bydd yn ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ddydd Llun 24 Mawrth.

Cyhuddwyd Martin Evans o gynhyrchu canabis ac o fod yn gysylltiedig â chyflenwi canabis. Ymddangosodd yn Llys Ynadon Llanelli a chyflwynodd ble euog. Bydd yn ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ddydd Llun 24 Mawrth i gael ei ddedfrydu.

Op Mille Kidwelly plants.jpg 

Op Mille Newtown plants.jpg

Cafodd swyddogion fynediad drwy rym i eiddo pedwar llawr yn Clifton Terrace, y Drenewydd, ddydd Mercher 19 Chwefror, gyda thriniwr cŵn yn bresennol yn dilyn ymgeisiau’r drwgdybiedigion i ffoi rhag ffatrïoedd eraill ym Mhowys yn ystod gwarantau blaenorol.  

Wrth i’r drws dorri, gwelwyd dyn yn rhedeg o’r gegin i ystafell flaen, gan ysgogi camau cyflym i’w ddal tra bod yr arall yn cael eu chwilio.

O’r stryd, doedd dim ffordd o wybod bod y 274 planhigyn canabis yn tyfu yn yr adeilad briciau coch. Roedd y llawr isaf, y lloriau uchaf a’r llofft yn llawn offer tyfu, goleuadau hydroponeg a phibau awyru a oedd yn bwydo gwres allan o’r adeilad drwy’r simnai.

Roedd y gosodiad helaeth yn cael ei redeg gan gyflenwad trydan a oedd wedi’i addasu’n anghyfreithlon, gyda’r palmant o flaen y tŷ wedi’i balu er mwyn cael mynediad i’r prif gyflenwad.

Ynghyd â’r planhigion canabis, aed â dau ffôn symudol, tri cherdyn SIM ac arian parod o’r tŷ.

Cyhuddwyd Ismet Lika, 35 oed, o gynhyrchu canabis. Cyfaddefodd i hyn yn y llys. Bydd yn cael ei ddedfrydu ar 20 Mawrth.

Op Mille Newtown bags.jpg

Op Mille Llandysul.jpg

Cafodd gwarant cyffuriau adran 8 ei gweithredu mewn eiddo gwledig yn Llanfihangel-ar-Arth ddydd Iau, Chwefror 20, lle lleolwyd tyfiant canabis bach mewn adeilad allanol ynghyd â chanabis o fewn yr eiddo. Atafaelwyd dyfeisiau symudol ac offer tyfu hefyd.

Cafodd un ddynes, 49 oed, ei harestio ar amheuaeth o dyfu canabis, tynnu trydan, a meddiant gyda’r bwriad o gyflenwi canabis.

Mae hi ar fechnïaeth ar hyn o bryd tra bod ymholiadau’n parhau.

Cynhaliwyd trydedd warant gan dîm plismona rhagweithiol Sir Gaerfyrddin ar Stryd Mansel, Porth Tywyn. Wrth i swyddogion fynd mewn i’r eiddo drwy’r drws ffrynt, fe wnaethant arestio dyn ar amheuaeth o gynhyrchu canabis.

Ar ôl chwilio’r tŷ, daethpwyd o hyd i bron 170 o blanhigion canabis. Roedd llawer ohonyn nhw’n dechrau blodeuo. Roedd gwerth y canabis ar y stryd tua £166,000.

Cyhuddwyd Renaldo Allmuca o gynhyrchu canabis ac ymddangosodd yn Llys Ynadon Llanelli ddydd Mercher 26 Chwefror. Ni chyflwynodd ble. Cafodd ei gadw yn y ddalfa a bydd yn ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ddydd Mercher 28 Mawrth.

Cynhaliwyd gwarant olaf Sir Gaerfyrddin o dan Mille yn Gilbert Crescent, Llanelli. Daethpwyd o hyd i bron 150 o blanhigion canabis yn y tŷ, gyda gwerth posibl o hyd at £113,000.

Cyhuddwyd Fabian Cela o gynhyrchu canabis a chafodd ei gadw yn y ddalfa. Ymddangosodd yn Llys Ynadon Llanelli ddydd Gwener 28 Chwefror a phlediodd yn ddieuog. Cadwyd Cela yn y ddalfa a bydd yn ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ddydd Llun 31 Mawrth.  

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Rich Lewis:

“Er y gall ein cymunedau fod dan yr argraff y byddai canabis ar y raddfa hon yn cael ei dyfu mewn unedau diwydiannol mawr, neu y tu allan i’r dref, yr wythnos hon, rydyn ni wedi targedu nifer o dai teras rhent yng nghanol trefi, neu’n agos i ganol trefi, sydd wedi’u haddasu i dyfu cannoedd o blanhigion.

“Mae’r eiddo hyn yn ymddangos yn gwbl gyffredin o’r stryd - gan fod dulliau gofalus yn cael eu rhoi ar waith er mwyn cuddio gweithgarwch anghyfreithlon. Fodd bynnag, mae arwyddion i gadw llygad amdanynt os ydych chi’n amau y gallech fod yn byw ger ffatri ganabis. Fe’ch anogwn i ymgyfarwyddo â’r arwyddion hyn, a chysylltu â ni os oes gennych unrhyw bryderon, neu wybodaeth i’w rhannu.”

Arwyddion mwyaf cyffredin ffatri ganabis yw:

  • GWRES: Mae angen gwres ar blanhigion canabis i dyfu. Efallai byddwch chi’n gweld anwedd ar ffenestri neu’n sylwi nad oes ia ac eira ar doeon adeg y gaeaf.
  • AROGL: Mae gan blanhigion canabis arogl cryf, sy’n gryfach yn ystod tri mis olaf y cyfnod tyfu.
  • SBWRIEL: Llawer o sbwriel ‘gardd’ wedi’i adael tu allan, megis potiau planhigion, compost a chynwysyddion bwyd planhigion gwag.
  • GOLAU: Mae angen goleuadau llachar ar ganabis 24 awr y dydd i dyfu. Efallai y byddwch chi hefyd yn clywed sŵn ffannau.
  • CYFRINACHEDD: Efallai bydd ffenestri wedi’u gorchuddio er mwyn cuddio gweithgarwch anghyfreithlon, neu efallai bydd cloeon ychwanegol wedi’u gosod.
  • TRYDAN: Efallai bydd eich stryd yn dioddef toriadau trydan mwy cyson ac anarferol wrth i fesuryddion trydan gael eu hosgoi.
  • YMWELWYR: A oes pobl yn mynd a dod, o bosibl yn ystod oriau anarferol? A yw’r goleuadau ymlaen o hyd ond nid yw’n ymddangos fel pe bai rhywun yno?

 

Os oes gennych unrhyw wybodaeth neu bryderon i’w rhannu, cysylltwch â Heddlu Dyfed-Powys drwy un o’r dulliau canlynol:

Ar-lein | https://bit.ly/DPPContactOnline,

E-bost | [email protected],

Ffôn | 101

Fel arall, cysylltwch â’r elusen annibynnol Crimestoppers yn ddienw drwy alw 0800 555111, neu drwy alw heibio i crimestoppers-uk.org.

Ar gyfer Dyfed-Powys, mae’r gweithgarwch hwn yn barhad o Ymgyrch Scotney, sef ymgyrch a arweinir gan CID, a ddechreuodd ym mis Ionawr 2024. Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae gwarantau wedi’u gweithredu mewn dros 40 ffatri ganabis ar raddfa ddiwydiannol, ac mae gwerth dros £12 miliwn o ganabis wedi’i atafaelu.

Op Mille red key

Rhannu

Tudalennau cysylltiedig

  • Ymgyrch Scotney
  • Ymgyrch gyffuriau fwyaf Heddlu Dyfed-Powys yn cymryd £12 miliwn o ganabis allan o’r gadwyn gyflenwi

Llywio troedyn

Heddlu Dyfed-Powys

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Gyrfaoedd
  • Amdanom ni
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Ystadegau a data
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Comisiynydd Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2026. Cedwir pob hawl.