Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Dyfed Powys wedi lansio Ymgyrch Apex sy’n canolbwyntio ar wella diogelwch reidwyr beic modur a gostwng gwrthdrawiadau difrifol ar ffyrdd allweddol.
Bydd yr ymgyrch yn golygu y bydd presenoldeb yr heddlu’n cynyddu ar ffyrdd sy’n boblogaidd gyda reidwyr, yn enwedig y rhai hynny sy’n adnabyddus oherwydd cyfraddau gwrthdrawiad uwch. Bydd swyddogion yn cynnal cyfuniad o weithgarwch gorfodi ac ymgysylltu, gan dargedu’r prif ffactorau sy’n cyfrannu at wrthdrawiadau difrifol ac angheuol.
Mae beicwyr modur ymhlith defnyddwyr mwyaf agored i niwed y ffyrdd, ac yn ystod cyfnodau’r gwanwyn a’r haf gwelir cynnydd yn y niferoedd o reidwyr sy’n teithio ar draws ffiniau’r heddlu i fwynhau ffyrdd gwledig ac arfordirol.
Fel rhan o Ymgyrch Apex, bydd swyddogion yn canolbwyntio ar:
Yn ogystal â gorfodi, bydd swyddogion yn ymgysylltu gyda reidwyr er mwyn darparu cyngor ynghylch reidio diogelach ac yn hyrwyddo datblygu sgiliau pellach drwy’r cynllun BikeSafe cenedlaethol.
Mae reidwyr hefyd yn cael eu hannog i gynnal gwiriadau sylfaenol cyn-reidio cyn iddynt gychwyn ar eu taith, gan gynnwys gwirio teiars, breciau, goleuadau a lefelau hylif, er mwyn sicrhau bod eu beic modur yn addas i’r ffordd fawr.
Dywedodd yr Arolygydd Dawn Fencott-Price, o Ymgyrchoedd Arbenigol Heddlu Dyfed Powys: “Bwriad Ymgyrch Apex yw gostwng y niferoedd o reidwyr sy’n cael eu hanafu’n ddifrifol neu eu lladd ar ein ffyrdd. Rydyn ni’n gwybod y bydd nifer o reidwyr beic modur yn teithio i’n hardal i fwynhau’r ffyrdd sydd gennym i’w cynnig, ac rydyn ni eisiau i bawb gyrraedd yn ddiogel a dychwelyd adref yn ddiogel.
“Nid atal pobl rhag mwynhau eu reidiau yw amcan yr ymgyrch hwn. Ei fwriad yw annog ymddygiadau reidio diogelach, sicrhau bod beiciau modur mewn cyflwr da, a gweithredu pan fyddwn yn gweld gweithgarwch peryglus sy’n peryglu bywydau.”
Gofynnir i heddluoedd partner gefnogi’r ymgyrch drwy rannu negeseuon diogelwch allweddol gyda reidwyr a fydd efallai’n teithio i’r ardal.
Atgoffir reidwyr beic modur i:
Mae Heddlu Dyfed Powys hefyd yn annog reidwyr i ystyried cofrestru ar gyfer gweithdy BikeSafe, sy’n cynnig cyngor ymarferol a thaith dan oruchwyliaeth reidiwr beic modur lefel uwch yr heddlu er mwyn helpu gwella sgiliau ac ymwybyddiaeth o’r ffordd.
I gael mwy o wybodaeth ynghylch BikeSafe, ewch at: www.bikesafe.co.uk
Neu am gyngor a gwybodaeth pellach: Ymgyrch Apex | Heddlu Dyfed-Powys