Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Ddydd Gwener 2 Ionawr, fe wnaeth Uned Plismona’r Ffyrdd leol stopio a gwirio cerbyd Seat Acea llwyd Dean Evans, 43 oed, fel mater o drefn. Chwiliwyd Evans a’i gerbyd o dan y Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau yn dilyn ei sylwadau y byddai swyddogion yn dod o hyd i ‘stwff’ yn y car.
Ar ôl yr stop ar Ffordd Hoyland, Penfro, cafodd Evans ei arestio ar amheuaeth o feddu gyda'r bwriad o gyflenwi cyffuriau rheoledig ar ôl i flwch cardbord yn cynnwys bloc un cilogram o gocên a deg pecyn hanner cilogram o ganabis llysieuol gael eu canfod yng nghist y Seat. Roedd gwerth stryd y cyffuriau ymhell dros £150,000.
Cyhuddwyd y dyn 43 oed o feddu ar gyffuriau Dosbarth A a B gyda'r bwriad o'u cyflenwi a phlediodd yn euog yn Llys Ynadon Abertawe ddydd Sadwrn 3 Ionawr.
Ddydd Iau 28 Ionawr, dedfrydwyd Evans yn Llys y Goron Caerdydd i wyth mlynedd o garchar am feddu â’r bwriad o gyflenwi cocên a chanabis.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Jones o Uned Troseddau Difrifol a Throseddu Trefnedig Sir Benfro -
“Mae mynd i’r afael â chyflenwi cyffuriau anghyfreithlon yn flaenoriaeth ar gyfer Heddlu Dyfed-Powys ac ni fydd y diflastod a achosir i gymunedau lleol gan gyffuriau anghyfreithlon yn cael ei oddef.
Rydyn ni’n croesawu’r ddedfryd a gyflwynwyd i Dean Evans o ystyried faint o gyffuriau anghyfreithlon y cafodd ei ddal yn masnachu i Sir Benfro.
Dylai’r ddedfryd hon fod yn rhybudd clir i unrhyw un arall sy’n cael ei demtio i’r fasnach cyffuriau anghyfreithlon yn Nyfed a Phowys.”