Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Mae dyn wedi ei garcharu am 16 mis ar ôl cyfaddef iddo ddwyn hen gar gwerth £35,000 ym mis Tachwedd llynedd.
Cyhuddwyd Ben Owen, 35, o Oldbury yng ngorllewin canolbarth Lloegr o ladrata, mynd â cherbyd heb ganiatâd y perchennog, a meddu ar gyffuriau dosbarth A a dosbarth B ar ôl iddo gael ei arestio ym mis Tachwedd 2025.
Plediodd yn euog i’r pedwar cyhuddiad, a heddiw, cafodd ei garcharu am 16 mis.
Wrth ddisgrifio effaith yr ymosodiad, dywedodd y dioddefwr: “Byddai’n gelwydd dweud nad yw’r digwyddiad hwn wedi fy ysgwyd. Mae hwn yn ardal ddiogel, does dim byd tebyg i hynny’n digwydd yma ac mae wedi dod fel syndod llwyr i mi a fy nghymdogion.
“Dydw i ddim yn teimlo’n ddiogel yn fy nghartref fy hun mwyach ac rydw i wedi ystyried symud, ond byddai hynny’n rhedeg i ffwrdd o fy mhroblemau.”
Ychydig cyn hanner nos nos Fawrth 18 Tachwedd, derbyniodd yr heddlu alwad 999 gan ddyn yn adrodd ei fod wedi dioddef ymosodiad gan ddyn anhysbys a oedd yn gwisgo mwgwd tu allan i’w gartref yn Rhaeadr, Powys, tua 10.30 o’r gloch y noson honno.
Gyda swyddogion yn cael eu hanfon i’r lleoliad yn syth, esboniodd y galwr sut yr oedd rhywun wedi gafael yn ei dei awr a hanner yn gynt a’i dynnu’n dynn am ei wddf cyn i’r allweddi i’w gar clasurol Morgan Plus 4 gael eu rhwygo o’i ddwylo.
Mynnodd y troseddwr, yr ydym yn awr yn ei adnabod fel Ben Owen o Oldbury yng ngorllewin canolbarth Lloegr, gael rhif ffôn y dioddefydd a dywedodd y byddai’n ei alw mewn hanner awr cyn gyrru i ffwrdd yn ei gar clasurol, sydd werth £35,000.
Ychydig yn ddiweddarach, galwodd Owen y dioddefydd a rhoi dau ddewis iddo; naill ai mae’r car yn cael ei ddatgymalu a’i werthu am ddarnau sbâr, neu gallai’r perchennog ei brynu nôl wrtho.
Dyma pryd y galwodd y dioddefydd 999 i wneud yr adroddiad.
Anfonwyd unedau arbenigol, gan gynnwys yr uned plismona’r ffyrdd a’r uned gŵn, i olrhain y drwgdybyn a’r car. Tua 3.30 o’r gloch y bore, gwelwyd y cerbyd wedi’i adael ar ddreif mewn pentref cyfagos, sef Sant Harmon.
Parhaodd swyddogion i chwilio ar droed er mwyn dod o hyd i’r drwgdybyn. Sylwasant ar rywun yn gorwedd o dan goeden. Dywedodd Cwnstabl Edwards wrth yr unigolyn hwn am aros ble’r oedd e, ond yn lle hynny, cododd a neidio dros ffens i mewn i gae. Gan fynd ar ei ôl ar droed, parhaodd Cwnstabl Edwards i rybuddio’r drwgdybyn am stopio rhedeg ac ildio.
Gydag Owen yn gwrthod ildio, bwrodd y swyddog ef i’r llawr cyn ei arestio ar amheuaeth o ladrata a chymryd cerbyd heb ganiatâd y perchennog.
Ar ôl ei chwilio, arestiwyd Owen ymhellach am feddu ar gyffuriau Dosbarth A a Dosbarth B.
Cyhuddwyd y dyn 35 oed â’r pedwar trosedd, a chyfaddefodd iddynt ddydd Gwener 19 Rhagfyr yn Llys y Goron yr Wyddgrug.
Atafaelwyd y cerbyd a gafodd ei ddwyn am archwiliad fforensig cyn cael ei ddychwelyd i’r perchennog.
Heddiw, carcharwyd Owen am 16 mis.
Fel rhan o’i ddatganiad effaith, anerchodd y dioddefwr ei ymosodwr yn uniongyrchol gan ddweud, er gwaethaf cael ei “drawmateiddio rhywfaint” gan y digwyddiad, nad oedd yn teimlo unrhyw elyniaeth bersonol tuag ato. Gorffennodd y dioddefwr ei ddatganiad drwy ddweud wrth Owen “Gobeithio y bydd eich dyfodol yn gwella.”
💬Dywedodd y Ditectif Ringyll Adam Clark, sy’n goruchwylio’r achos hwn: “Rydyn ni’n croesawu dedfryd Ben Owen heddiw, ac yn gobeithio fod hyn yn atgoffa pobl y byddwn ni’n gwneud pob dim o fewn ein gallu i ddwyn troseddwyr i gyfiawnder.
“Mae canolbarth Cymru’n le hardd i fyw ac mae preswylwyr lleol yn haeddu teimlo’n ddiogel wrth iddynt fynd o gwmpas eu bywydau bob dydd. Mae canlyniad heddiw’n rhybudd i unrhyw un sy’n ceisio achosi niwed yn ein cymunedau y byddant yn cael eu dal.”
➡️Anogir unrhyw un sy’n poeni am ddiogelwch eu cerbyd i ddarllen y cyngor atal trosedd ar wefan Heddlu Dyfed-Powys: Atal lladrata ceir a cherbydau | Heddlu Dyfed-Powys