Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Achubodd un o gŵn Heddlu Dyfed-Powys fywyd dynes, 3 mis yn unig ar ôl iddo ddechrau ei wasanaeth, ar ôl dod o hyd iddi mewn coedwig fawr yn ystod argyfwng meddygol.
Derbyniodd yr heddlu alwad am oddeutu 11.30 o’r gloch nos Sadwrn 11 Gorffennaf ar ôl i ddynes fynd ar goll o’i chartref yn ardal Hwlffordd. Anfonwyd swyddogion i chwilio’r ardal yn syth. Ymunodd Kaos, bleiddgi o’r uned gŵn, â’i driniwr i chwilio am y ddynes.
Roedd swyddogion yn fwy pryderus ar ôl cael gwybod y gallai’r ddynes fod wedi mynd â llawer iawn o feddyginiaeth gyda hi, ac roedd yr ardal chwilio’n cynnwys coedwig fawr.
Defnyddiodd Kaos ei hyfforddiant diweddar i olrhain y ddynes am oddeutu hanner milltir, cyn arwain ei driniwr i goedwig fawr. Daethant o hyd i’r ddynes mewn llwyni o dan goed gan ei bod hi’n profi argyfwng meddygol.
Hysbysodd y swyddog a oedd gyda Kaos weddill y tîm, a rhoddodd gymorth cyntaf a achubodd ei bywyd i’r ddynes tan i’r gwasanaeth ambiwlans gyrraedd. Ar ôl iddynt gyrraedd, gofalodd parafeddygon amdani ac aed â hi i’r ysbyty.
Dywedodd triniwr Kaos: “Rwy’n falch iawn ohono. Y mae wedi ymgymryd â’i hyfforddiant yn arbennig o dda, ac roedd yn wych yn y chwiliad. Roedd y ddynes yn ddwfn yn y llwyni, a dydw i ddim yn credu y byddem wedi dod o hyd iddi pe na bai Kaos wedi ei holrhain i’r goedwig.
Dim ond ym mis Ebrill y cafodd ei drwyddedu, felly roedd hwn yn ganlyniad gwych mor gynnar yn ei wasanaeth. Y mae wedi dod yn aelod gwerthfawr iawn o’n tîm, ac rwy’n siŵr y bydd yn gwneud llawer mwy o waith arbennig yn ei yrfa.”
Mae gan gŵn yr heddlu rolau amrywiol yn y gwasanaeth heddlu. Maen nhw’n helpu swyddogion drwy ganfod drwgdybiedigion neu unigolion coll, fel Kaos, adfer eiddo coll neu eiddo wedi’i ddwyn, a chanfod arian, arfau saethu neu ffrwydron. Maen nhw hefyd yn arbennig o ddefnyddiol o ran rheoli anrhefn gyhoeddus.
Cewch ragor o wybodaeth am ein hadran gŵn fan hyn: Yr adran gŵn | Heddlu Dyfed-Powys