Stamp amser presennol: 03/08/2026 04:23:35
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

Dyfed Powys force crest

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio bod person ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith, protest neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Cysylltu â ni i riportio trosedd, digwyddiad neu amheuaeth
    • Cysylltu â ni am rywbeth arall
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

Cyfraith Raneem: Heddlu Dyfed-Powys i gryfhau’r ymateb i gam-drin domestig gyda chyllid newydd o’r Swyddfa Gartref

Cynnwys y prif erthygl

Ceredigion Powys Sir Benfro Sir Gaerfyrddin
Cyhoeddwyd: 10:00 31/07/2026

imageg22x.png

Cyfraith Raneem: Heddlu Dyfed-Powys i gryfhau’r ymateb i gam-drin domestig gyda chyllid newydd o’r Swyddfa Gartref

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn un o ddeuddeg gwasanaeth heddlu sy’n cyflwyno cymorth gwell i ddioddefwyr cam-drin domestig gydag ail gam cyflwyno “Cyfraith Raneem”, a ariennir gan y Swyddfa Gartref.

Gan gychwyn ym mis Awst, bydd y mesur newydd hwn yn gweld Cynghorydd Annibynnol ar Drais Domestig yng Nghanolfan Gyfathrebu’r Heddlu i gryfhau ymateb yr heddlu i gam-drin domestig o’r pwynt cyswllt cyntaf.

Sefydlwyd Cyfraith Raneem er cof am Raneem Oudeh a’i mam, Khaola Saleem, a gafodd eu llofruddio yn 2018 ar ôl galw’r heddlu am gymorth dro ar ôl tro. Mae menter y Swyddfa Gartref yn anelu i sefydlu arbenigwyr cam-drin domestig yn ystafelloedd rheoli gwasanaethau heddlu ledled Cymru a Lloegr, gan helpu heddluoedd i nodi perygl yn gynt a gwella diogelu ar gyfer dioddefwyr.  

Cefnogir y fenter gan Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu (SCHTh) Dyfed-Powys, sy’n dal grant y Swyddfa Gartref, a Gwasanaethau Trais Domestig Calan, a fydd yn darparu Cynghorydd Annibynnol ar Drais Domestig llawn amser ar gyfer y rôl.

Ers dros 70 mlynedd, mae Gwasanaethau Trais Domestig Calan wedi rhoi cymorth arbenigol i ddioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig a thrais rhywiol ar draws De, Canolbarth a Gorllewin Cymru. Mae eu Cynghorwyr Annibynnol ar Drais Domestig yn gweithio gyda’r rhai sydd fwyaf mewn perygl o niwed, gan ddarparu eiriolaeth annibynnol, cynlluniau diogelwch, cymorth emosiynol ac arweiniad ymarferol wrth helpu dioddefwyr i lywio’r system cyfiawnder troseddol a chael mynediad at y gwasanaethau sydd angen arnynt.

Fel rhan o gyfraith Raneem, bydd y Cynghorydd Annibynnol ar Drais Domestig yn gweithio ochr yn ochr â staff Canolfan Gyfathrebu’r Heddlu i roi cyngor arbenigol ar ddigwyddiadau cam-drin domestig yr adroddir amdanynt wrth yr heddlu, gan helpu i nodi achosion perygl uwch a sicrhau bod mesurau diogelu digonol yn cael eu hystyried cyn gynted â phosibl.  

Bydd y fenter ddiweddaraf hon yn gweithredu ochr yn ochr ag Uned Ymateb Fideo i Gam-drin Domestig yr heddlu yn rhoi cyfle i ddioddefwyr digwyddiadau domestig nad ydynt yn rhai brys siarad â swyddog heddlu drwy alwad fideo.

Gyda’i gilydd, bydd cyflwyno’r Cynghorydd Annibynnol ar Drais Domestig a’r defnydd parhaus o’r gwasanaeth galwadau fideo’n sicrhau gwasanaeth mwy arbenigol ar gyfer dioddefwyr cam-drin domestig ar draws pob lefel risg.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Katie Cuthbertson o Ganolfan Fregusrwydd Heddlu Dyfed-Powys:

“Mae cyflwyno’r rôl arbenigol hon yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i ddarparu ymateb tosturiol i ddioddefwyr cam-drin domestig, gan barhau i erlid y rhai sy’n gyfrifol am achosi niwed yn ddiflino.

"Gall y rhyngweithiad cyntaf mae rhywun yn cael gyda ni ar ôl profi cam-drin domestig fod yn un o’r rhai pwysicaf, yn ymarferol ac yn emosiynol. Bydd cael Cynghorydd Annibynnol ar Drais Domestig arbenigol yng Nghanolfan Gyfathrebu’r Heddlu’n cryfhau ein gallu i asesu’r risg a darparu’r diogelu cywir mor gyflym â phosibl.  

"Mae’r bartneriaeth hon gyda Gwasanaethau Trais Domestig Calan yn ychwanegiad pwysig i’r gwaith sydd eisoes yn digwydd ledled ardal Heddlu Dyfed-Powys i wella ein hymateb i ddioddefwyr cam-drin domestig. Rwy’n gobeithio bydd y mesur newydd hwn yn rhoi mwy o hyder a sicrwydd i ddioddefwyr o ran adrodd am gam-drin domestig wrthym.” 

Croesawodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, y cyllid, gan ddweud:

"Mae’r buddsoddiad hwn yn cynrychioli cyfle pwysig i bartneriaid ledled ardal Dyfed-Powys i gryfhau’r cymorth sydd ar gael i ddioddefwyr cam-drin domestig ymhellach. Drwy ddod ag arbenigedd Heddlu Dyfed-Powys a Gwasanaethau Trais Domestig Calan ynghyd, gallwn helpu i sicrhau bod y rhai sy’n estyn allan am gymorth yn derbyn ymateb gwybodus, amserol ac effeithiol o’r pwynt cyswllt cyntaf un."

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaethau Trais Domestig Calan:

“Mae Gwasanaethau Trais Domestig Calan yn falch o weithio gyda Heddlu Dyfed-Powys i gyflwyno Cyfraith Raneem, sef menter bwysig sy’n cryfhau’r ymateb i gam-drin domestig drwy gynnwys arbenigedd Cynghorydd Annibynnol ar Drais Domestig arbenigol yn Ystafell Reoli’r Heddlu. Bydd yr ymagwedd hon yn helpu i adnabod dioddefwyr perygl uwch yn gynt, gwella diogelu, a sicrhau bod pobl yn derbyn cymorth arbenigol o’r cyswllt cyntaf un gyda’r heddlu.

“Mae Cyfraith Raneem yn gam cadarnhaol tuag at wella canlyniadau ar gyfer dioddefwyr. Drwy ddod â phlismona ac arbenigedd cam-drin domestig arbenigol at ei gilydd, mae cyfle gyda ni i gryfhau ymgysylltu â dioddefwyr, gwella asesiadau risg, ac yn y pen draw, helpu i amddiffyn mwy o ddioddefwyr a’u plant rhag niwed yn y dyfodol.”

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu Dyfed-Powys

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Gyrfaoedd
  • Amdanom ni
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Ystadegau a data
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Comisiynydd Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2026. Cedwir pob hawl.