Stamp amser presennol: 12/10/2026 05:58:09
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

Dyfed Powys force crest

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Riportio camdriniaeth drwy ddefnyddio delweddau personol heb gydsyniad (pornograffi dial)
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio bod person ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Riportio trosedd wledig
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Gweithgarwch terfysgol posibl
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith, protest neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Beth yw llwyth annormal?
    • Cysylltu â ni i riportio trosedd, digwyddiad neu amheuaeth
    • Cysylltu â ni am rywbeth arall
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

AHGTAEF yn cydnabod perfformiad da ar draws pedwar maes plismona

Cynnwys y prif erthygl

Ceredigion Powys Sir Benfro Sir Gaerfyrddin
Cyhoeddwyd: 09:00 09/10/2026 Diweddarwyd: 09:00 09/10/2026

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi croesawu canfyddiadau ei arolygiad diweddaraf gan Arolygiaeth Heddluoedd a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi (AHGTAEF), a wnaeth gydnabod perfformiad cryf ar draws pedwar maes plismona a nodi ble y gellir gwneud gwelliannau pellach. 

Asesodd arolygiad Effeithiolrwydd, Effeithlonrwydd a Chyfreithlondeb yr Heddlu'r heddlu ar draws naw maes plismona.

Derbyniodd yr heddlu’r graddau canlynol: 

  • Da mewn pedwar maes
  • Digonol mewn pedwar maes
  • Angen gwella mewn un maes
  • Ni farnwyd bod unrhyw faes yn annigonol

Canfu’r asesiad bod Heddlu Dyfed-Powys wedi gwneud cynnydd mewn pum maes perfformiad yr aseswyd eu bod ‘angen eu gwella’ neu’n ‘annigonol’ o’r blaen gan yr arolygiaeth annibynnol yn ystod eu harolygiad diwethaf (yn 2023-2025).

Dywedodd y Prif Gwnstabl Ifan Charles: “Rydyn ni’n croesawu canfyddiadau’r arolygiad annibynnol hwn a’r cyfle mae’n rhoi i ddeall yr hyn rydyn ni’n ei wneud yn dda a ble mae angen inni barhau i wella.

“Rwy’n arbennig o falch bod ein gwaith wedi’i asesu fel gwaith da mewn pedwar maes plismona pwysig.

“Mae hyn yn adlewyrchu ymrwymiad a phroffesiynoldeb swyddogion, staff, gwirfoddolwyr a phartneriaid sy’n gweithio bob dydd i ddarparu gwasanaeth o safon uchel i’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu.

“Yn arbennig, mae’r asesiad o’n gwaith i atal trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, a pharhau i ymateb i’r cyhoedd, yn adlewyrchu ymrwymiad swyddogion a staff i gadw pobl yn ddiogel a darparu gwasanaeth pan mae pobl ein hangen fwyaf.

“Mae hwn yn faes sy’n bwysig iawn i’r cyhoedd, ac roedd yn faes y barnwyd ei fod angen ei wella yn yr arolygiad blaenorol – felly mae’r cynnydd hwn yn rhywbeth rwy’n arbennig o falch ohono.

“Rwyf hefyd yn falch bod yr arolygiad yn cydnabod ymrwymiad Heddlu Dyfed-Powys i ddefnyddio pwerau’r heddlu’n deg a phriodol, a gyda chyfiawnhad. Mae cynnal hyder y cyhoedd yn y ffordd yr ydym yn defnyddio ein pwerau’n hanfodol i blismona trwy ganiatâd.”

Roedd yr arolygiad diweddaraf hwn yn cydnabod y cynnydd sylweddol sydd wedi’i wneud gan yr heddlu o ran mynd i’r afael â’r meysydd yr oedd angen eu gwella yn ôl yr arolygiad PEEL diwethaf yn 2023-25, ac roedd yn cydgrynhoi’r cynnydd a wnaed ers asesiad PEEL diwethaf yr heddlu (2023-2025), gyda gwelliannau wedi’u harddangos yn y pum maes canlynol:

  • Denu, datblygu a chadw’r gweithlu a chreu gweithle amrywiol a chynhwysol; gradd 2023-25 – Mae angen gwella, gradd 2025-27 – Da.
  • Defnyddio pwerau’n deg a phriodol, a gyda chyfiawnhad gradd 2023-25 – Digonol, gradd 2025-27 – Da.
  • Atal trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol a lleihau bregusrwydd; gradd 2023-25 - Digonol, gradd 2025-27 – Da.
  • Ymateb i’r cyhoedd; gradd 2023-25 - Digonol, gradd 2025-27 – Da.
  • Diogelu plant ac oedolion sydd mewn perygl o niwed; gradd 2023-25 – Angen Gwella, gradd 2025-27 – Digonol.

Aeth y Prif Gwnstabl Charles yn ei flaen i ddweud: “Mae’r adroddiad hefyd yn nodi meysydd lle mae angen inni wneud mwy – ac ni fyddaf yn cilio rhag hynny.

“Rwy’n derbyn y canfyddiadau hynny, yn arbennig mewn perthynas ag ymchwilio i droseddau, ac mae’r heddlu eisoes yn canolbwyntio ar y gwelliannau sydd angen.

“Mae gwaith yn mynd rhagddo i gryfhau ein hymagwedd, gwella cysondeb a sicrhau bod ymchwiliadau’n cael eu datblygu’n effeithiol ac i’r safon mae ein cymunedau’n haeddu.

“Mae hyn yn cynnwys cryfhau goruchwyliaeth oruchwyliol o ymchwiliadau, gwella ein prosesau sicrhau ansawdd ac archwilio presennol, ynghyd â buddsoddiad pellach mewn datblygu ac achredu ymchwilwyr.

“Bydd y camau gweithredu hyn yn ein helpu i wella safonau, cysondeb a chanlyniadau ymhellach ar gyfer dioddefwyr a’n cymunedau.”

Mae 26 maes a nodwyd i’w gwella yn arolygiad blaenorol PEEL (2023-2025) yn awr wedi’u rhyddhau gan AHGTAEF. Mae hyn yn golygu bod yr heddlu wedi rhoi digon o dystiolaeth i fodloni’r arolygwyr bod yr heddlu wedi cynnal gwelliannau. 

Mae pedwar maes arall yn disgwyl cael eu hadolygu gan AHGTAEF fel rhan o arolygiad 2025-27 PEEL, sy’n mynd rhagddo.

Enghreifftiau:

  • Un enghraifft o gynnydd a wnaed yw lle y tynnwyd sylw at bryderon a meysydd i’w gwella o gwmpas rhoi’r gorau i alwadau difrys ac adolygu a deall perygl a galw, o fewn ystafell reoli’r heddlu a’r ymateb i ddigwyddiadau. Mae’r meysydd hyn yr oedd angen eu gwella wedi’u cwblhau a’u cau gan AHGTAEF yn dilyn rhaglen newid sylweddol, gan gynnwys system radio a theleffoni cyswllt newydd, mwy o adnoddau a model gweithredu newydd, gan gynnwys hollgymhwysedd o fewn Canolfan Gyfathrebu’r Heddlu. Mae hyn wedi gwella cyflenwi gwasanaeth, gyda’r heddlu nawr yn rhagori ar ddangosyddion perfformiad allweddol yn gyson ar gyfer amserau ymateb a rhoi’r gorau i alwadau (gweler y nodyn i olygyddion) a gwell ffocws ar nifer y galwadau a pherchnogaeth o ddigwyddiadau mewn graddau ymateb is. Darllenwch mwy fan hyn am y gwelliannau hyn
  • Hefyd, mewn ymateb i faes i’w gwella mewn perthynas â diogelu pobl sy’n agored i niwed yn arolygiad 2023, rydyn ni wedi gwneud gwelliannau sylweddol i’r ffordd yr ydym yn diogelu pobl sy’n agored i niwed. Rydyn ni wedi cryfhau ein gwiriadau a’n hadolygiadau ar ddigwyddiadau domestig, darparu mwy o hyfforddiant ar gyfer swyddogion a staff sy’n cefnogi pobl sy’n agored i niwed, a gwella ein prosesau sicrhau ansawdd cyffredinol. Mae’r newidiadau hyn yn golygu ein bod ni’n gallu nodi peryglon yn well, ymateb yn briodol a darparu cymorth effeithiol i bobl sy’n agored i niwed, fel y gwelir yn ein gwaith partneriaeth amlasiantaeth a datblygiad ein Rhaglen Ymyrraeth Stelcio yn 2025, sy’n gwella diogelwch dioddefwyr drwy ganolbwyntio ar y perygl a gyflwynir gan y troseddwr. Gwelodd hyn gynnydd o 450% yn nifer y Gorchmynion Diogelu Rhag Stelcio a gafwyd ers ei chreu, gan wella amddiffyniad ar gyfer dioddefwyr sy’n agored i niwed. 

Aeth Mr Charles yn ei flaen i ddweud: “Er bod gennym lawer i ddathlu, ni fyddwn yn llaesu dwylo o ran y meysydd y barnwyd eu bod yn dda. Byddwn ni’n parhau i adeiladu ar y perfformiad hwnnw – fel yr ydym wedi gwneud dros y blynyddoedd diwethaf, gan sicrhau bod y gwelliannau a nodwyd gan AHGTAEF yn cael eu cyflwyno a’u cynnal.

“Mae canfyddiadau’r arolygiad hyn yn eistedd ochr yn ochr â’r cynnydd rydyn ni’n ei wneud trwy ein Cynllun Cyflawni Strategol. Mae’r cynllun hwnnw wedi rhoi ffocws clir inni ar y canlyniadau rydyn ni eisiau eu sicrhau ar gyfer ein cymunedau, ac mae’r cynnydd rydyn ni wedi ei wneud yn erbyn y blaenoriaethau hynny’n darparu tystiolaeth bwysig o’r hyn y gallwn gyflawni pan rydyn ni’n cydweithio. Mae’r arolygiad hwn yn atgyfnerthu pwysigrwydd parhau â’r ffocws hwnnw. 

“Hoffwn ddiolch i bawb ar draws y sefydliad am eu hymrwymiad a’u gwaith caled parhaus. Mae’r adroddiad hwn yn rhoi darlun clir inni o ble’r ydyn ni heddiw, ac yn bwysicaf oll, ble mae angen inni gyrraedd nesaf.”

Y pedwar maes y barnwyd eu bod yn Dda oedd:

  • Denu, datblygu a chadw’r gweithlu a chreu gweithle amrywiol a chynhwysol
  • Defnyddio pwerau’n deg a phriodol, a gyda chyfiawnhad 
  • Atal trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, a lleihau bregusrwydd
  • Ymateb i’r cyhoedd

Y pedwar maes y barnwyd eu bod yn Ddigonol oedd:

  • Arweinyddiaeth a rheolaeth yr heddlu
  • Diogelu plant ac oedolion sydd mewn perygl o niwed
  • Rheoli twyll
  • Darparu amgylchedd dalfa diogel a chyfreithlon

A’r meysydd y barnwyd eu bod Angen Gwella oedd: 

  • Ymchwilio i droseddau

Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys: “Rwy’n croesawu’r adroddiad arolygiad diweddaraf hwn gan AHGTAEF, ac, yn bwysig iawn, y gydnabyddiaeth mae’n rhoi i’r cynnydd a wnaed gan Heddlu Dyfed-Powys ers yr arolygiad diwethaf.

“Mae neges glir yn yr adroddiad hwn bod gwelliannau’n cael eu cyflwyno ar draws sawl maes pwysig, ac rwyf eisiau diolch i’n swyddogion a’n staff am y gwaith caled, proffesiynoldeb, ac ymrwymiad sydd wedi gwneud hyn yn bosibl.

“Mae symud o raddau digonol i dda mewn meysydd sy’n cynnwys ein gweithlu, y defnydd teg a phriodol o bwerau’r heddlu, ac atal trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn gam sylweddol ymlaen. Mae’r rhain yn feysydd sy’n bwysig iawn i’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu.

“Fodd bynnag, rhaid inni beidio â cholli golwg ar y meysydd mae’r adroddiad yn dweud wrthym y mae angen eu gwella ymhellach. Yn arbennig, rhaid i’r radd ar gyfer ymchwilio i droseddau, sef ‘angen gwella’, barhau’n flaenoriaeth glir. Mae gwaith pellach i’w wneud hefyd o ran diogelu plant ac oedolion sydd mewn perygl o niwed, rheoli twyll, a darparu amgylchedd dalfa diogel a chyfreithlon.   

“Gan hynny, mae’r adroddiad hwn yn cydnabod y cynnydd sydd wedi ei wneud ac yn ein hatgoffa’n glir o’r gwaith sydd dal angen ei wneud. Mae’n rhaid inni adeiladu ar y gwelliannau hyn, mynd i’r afael â’r meysydd a nodwyd gan AHGTAEF, a sicrhau bod cynnydd yn cael ei gynnal.

“Mae’r cyhoedd yn hollol iawn yn disgwyl gwasanaeth heddlu effeithiol ac effeithlon. Rwy’n falch bod gwaith caled swyddogion a staff yn cael ei gydnabod, a byddaf yn parhau i weithio gyda’r Prif Gwnstabl i sicrhau ein bod ni’n cynnal momentwm, ac yn cyflwyno’r gwelliannau mae ein cymunedau’n eu haeddu.”

Mae adroddiad PEEL llawn AHGTAEF ar gael ar wefan AHGTAEF.

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion.  

Data’n ymwneud â gwelliannau i Ganolfan Gyfathrebu’r Heddlu yn dilyn rhaglen newid sylweddol:

01/04/2023 – 31/03/2024

Atebwyd 81% o alwadau 999 o fewn 10 eiliad (Dangosydd Perfformiad Allweddol Cenedlaethol)

Amser Ateb Cyfartalog o 9.19 eiliad

Cyfradd ildio o 41% ar gyfer galwadau 101 a dderbyniwyd

Amser Ateb Cyfartalog o 398 eiliad

01/04/2025 – 31/03/2026

Atebwyd 95% o alwadau 999 o fewn 10 eiliad (Dangosydd Perfformiad Allweddol Cenedlaethol)

Amser Ateb Cyfartalog o 4.84 eiliad

Cyfradd ildio o 6.6% ar gyfer galwadau 101 a dderbyniwyd

Amser Ateb Cyfartalog o 43 eiliad

 

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu Dyfed-Powys

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Gyrfaoedd
  • Amdanom ni
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Ystadegau a data
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Comisiynydd Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2026. Cedwir pob hawl.