Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Bydd swyddogion o’r tîm plismona bro’n cynnal patrolau amlwg o gwmpas Lugg View, Llanandras er mwyn atal ymddygiad gwrthgymdeithasol ac unrhyw weithgarwch troseddol.
Bydd y flaenoriaeth hon yn para o fis Gorffennaf i fis Medi 2026.
Wedi'i roi 01 Gorffennaf 2026
Bydd swyddogion bro’n monitro’r ardal sy’n cael ei hadnabod yn lleol fel y parc sglefrfyrddio, Clawdd Offa er mwyn atal unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol a gweithgarwch troseddol. Bydd y flaenoriaeth hon yn para o Ebrill i Fehefin 2026.
Wedi'i roi 01 Ebrill 2026
Ar 27 Mehefin, derbyniodd yr heddlu adroddiad am ymosodiad parhaus ar Stryd Fawr Llanandras rhwng dau ddyn a barhaodd ar draws nifer o leoliadau yn y dref. Aeth swyddogion heddlu i’r lleoliad a chafodd un dyn ei arestio – mae’r ymchwiliad yn parhau. Mae swyddogion lleol yn gweithio’n agos ag Adran Dai Cyngor Sir Powys mewn perthynas â’r mater hwn oherwydd y pryderon amlwg mewn perthynas â graddfa’r ymddygiad a arddangoswyd gan y rhai cyfrifol.
Mae swyddogion lleol yn parhau i weithio ag adrannau Plismona’r Ffyrdd a Chudd-wybodaeth bob dydd i ddatblygu gwybodaeth gan y gymuned am bryderon lleol sy’n ymwneud â throseddau gyrru, gweithgarwch cyffuriau a throseddau siopladrata er mwyn cynllunio a chyflenwi ymatebion cadarnhaol ac effeithiol ac aflonyddu o fewn y dref.
Yn ystod y cyfnod hwn, mae swyddogion lleol hefyd wedi rhannu posteri a rhoi gwybodaeth gysylltiedig mewn perthynas â siopladrata fel rhan o ymdrechion cenedlaethol i aflonyddu ar droseddu o’r fath o fewn cymunedau a mynd i’r afael ag ef.
Camau wedi'u cymryd 30 Mehefin 2026
Mae pryderon wedi’u mynegi gan y gymuned o gwmpas ymddygiad gwrthgymdeithasol a gweithgarwch sy’n gysylltiedig â chyffuriau yn Beddoes View, Llanandras. Bydd swyddogion plismona bro’n parhau i gynnal patrolau rheolaidd a monitro’r sefyllfa hon.
Bydd y flaenoriaeth hon yn para o fis Chwefror i fis Mawrth 2026.
Wedi'i roi 01 Chwefror 2026
Mae pryderon wedi’u codi mewn perthynas ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yr honnir ei fod yn gysylltiedig â chyffuriau yn ardal Lugg View, Llanandras, gan gynnwys ymwelwyr cyson gyda’r hwyr, ar droed ac mewn cerbydau, y defnydd o iaith sarhaus ac ymddygiad bygythiol sy’n achosi ofn, gofid a braw i’r rhai sy’n byw yn y cyffiniau.
Bydd y flaenoriaeth hon yn para o fis Ionawr i fis Mawrth 2026.
Wedi'i roi 01 Ionawr 2026