Ar 27 Mehefin, derbyniodd yr heddlu adroddiad am ymosodiad parhaus ar Stryd Fawr Llanandras rhwng dau ddyn a barhaodd ar draws nifer o leoliadau yn y dref. Aeth swyddogion heddlu i’r lleoliad a chafodd un dyn ei arestio – mae’r ymchwiliad yn parhau. Mae swyddogion lleol yn gweithio’n agos ag Adran Dai Cyngor Sir Powys mewn perthynas â’r mater hwn oherwydd y pryderon amlwg mewn perthynas â graddfa’r ymddygiad a arddangoswyd gan y rhai cyfrifol.
Mae swyddogion lleol yn parhau i weithio ag adrannau Plismona’r Ffyrdd a Chudd-wybodaeth bob dydd i ddatblygu gwybodaeth gan y gymuned am bryderon lleol sy’n ymwneud â throseddau gyrru, gweithgarwch cyffuriau a throseddau siopladrata er mwyn cynllunio a chyflenwi ymatebion cadarnhaol ac effeithiol ac aflonyddu o fewn y dref.
Yn ystod y cyfnod hwn, mae swyddogion lleol hefyd wedi rhannu posteri a rhoi gwybodaeth gysylltiedig mewn perthynas â siopladrata fel rhan o ymdrechion cenedlaethol i aflonyddu ar droseddu o’r fath o fewn cymunedau a mynd i’r afael ag ef.