Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Sbeicio ydy rhoi alcohol neu gyffuriau i rywun heb iddynt wybod neu gytuno. Er enghraifft, mewn diod neu gyda nodwydd.
Sbeicio hefyd ydy rhoi mwy o alcohol neu gyffuriau i rywun nag yr oedd yn ei ddisgwyl neu wedi cytuno iddo. Er enghraifft, rhoi siot ddwbl i rywun yn lle siot sengl.
Gall unrhyw un gael ei sbeicio mewn unrhyw le – ni waeth beth fo’i oedran, ei ryw, ei rywioldeb neu ei ethnigrwydd. Gellir gwneud hyn gan bobl ddiarth neu bobl rydych chi’n eu hadnabod.
Mae sbeicio’n anghyfreithlon ac yn cario dedfryd o hyd at ddeng mlynedd yn y carchar. Os bu lladrad, ymosodiad rhywiol neu drosedd arall, gall y ddedfryd fod yn hwy fyth.
Mae sbeicio yn bwnc anodd i siarad amdano. Efallai y bydd gennych amheuon neu bryderon ynghylch siarad â phobl ifanc yn eu harddegau am sbeicio. Dydy hi ddim bob amser yn hawdd penderfynu beth na phryd i ddweud wrthynt.
Diben yr wybodaeth ar y dudalen hon yw eich helpu i siarad â phobl ifanc yn eu harddegau am sbeicio. Rydyn ni’n defnyddio’r term ‘eich person ifanc’ ar y dudalen hon. Ond wrth gwrs, nid ar gyfer rhieni yn unig y mae’r wybodaeth. Mae'r wybodaeth yn addas i unrhyw un sy’n siarad am sbeicio gyda pherson ifanc yn ei arddegau.
Mae pob oedolyn eisiau amddiffyn plant rhag y boen a’r pryder o gael eu sbeicio. Efallai eich bod chi’n teimlo eu bod yn rhy ifanc i gael y sgwrs honno. Efallai y byddwch hefyd yn poeni am roi syniadau iddynt neu achosi iddynt boeni’n ddiangen.
Bod yn agored ac yn onest yw’r ffordd orau gyda phlant bron bob amser. Siaradwch â’ch person ifanc am sbeicio a’r gwahanol ffyrdd y gall ddigwydd. Eglurwch fod sbeicio’n ymddygiad annerbyniol a throseddol, ac nid yw’n jôc.
Mae’n rhaid i ni fynd i’r afael yn gynnar â’r rheini sy’n datblygu syniadau ac ymddygiad bod ganddynt hawl i drin pobl eraill fel hyn.
Y ffordd orau o wneud hyn yw drwy gynnwys unrhyw fath o sbeicio mewn sgwrs cyn gynted â phosibl.
Mae plant mor ifanc ag 11 oed yn dod i gysylltiad â chamwybodaeth am sbeicio ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae sbeicio’n aml yn cael ei ddangos mewn fideos ar-lein fel jôc ymarferol ddiniwed. Mewn gwirionedd, mae’n drosedd a allai olygu bod dioddefwyr yn gorfod mynd i’r ysbyty neu’n dioddef o orbryder.
Wrth i blant fynd yn hŷn, fel arfer maen nhw’n gallu deall mwy am yr hyn sy’n gywir ac yn anghywir. Ond mae’n dibynnu ar y plentyn. Mae hefyd yn dibynnu ar eu profiad blaenorol o ymddygiad gwael fel bwlio.
Mae siarad â’ch plant am sbeicio yn golygu y gallwch chi ganfod a ydyn nhw wedi camddeall unrhyw beth. Wedyn gallwch gynnig yr wybodaeth gywir, sicrwydd a chefnogaeth iddynt.
Gall unrhyw un gael ei sbeicio, ni waeth beth fo’i ryw, ei oedran neu ei ethnigrwydd. Ond mae menywod a genethod ifanc yn fwy tebygol o gael eu sbeicio.
Gall sbeicio fod yn rhan o ddiwylliant o wrywdod gwenwynig ymysg pobl ifanc yn eu harddegau. Mae'n bwysig siarad â phobl ifanc yn eu harddegau ynghylch agweddau tuag at fenywod a genethod. Gall helpu i fynd i’r afael ag unrhyw agweddau negyddol maen nhw’n eu dysgu gan ffrindiau a’r cyfryngau cymdeithasol.
Gallwch siarad â phobl ifanc yn eu harddegau am yr angen i barchu menywod a genethod ifanc, ond hefyd am gydsyniad. Mae cydsyniad yn golygu bod pawb yn cytuno â’r hyn sy’n digwydd drwy ddewis ac yn cael y rhyddid a’r gallu i wneud a newid y dewis hwnnw. Sbeicio ydy rhoi alcohol neu gyffuriau i rywun heb iddynt wybod neu gytuno iddo.
Ni ddylai fod angen dweud wrth ferched a genethod ifanc i gadw llygad ar eu diodydd ar noson allan. Na bod yn effro drwy’r amser i’r risg y gallai rhywun eu sbeicio. Ond y realiti trist yw bod rhai pobl yn cael eu sbeicio gan bobl ddiarth neu hyd yn oed ffrindiau.
Mae siarad â phobl ifanc yn eu harddegau am sbeicio yn golygu y byddant wedi paratoi’n well os ydyn nhw neu ffrind fyth yn cael ei sbeicio. Byddan nhw’n gwybod beth i’w wneud er diogelwch a lles.
Darllenwch fwy am yr hyn y dylech ei wneud os ydy rhywun wedi eich sbeicio
Efallai y bydd pobl ifanc yn eu harddegau’n sylwi bod rhai o’u ffrindiau’n brolio am sbeicio pobl eraill. Efallai na fyddant yn ystyried bod yr ymddygiad hwn yn sbeicio os yw’n teimlo fel jôc.
Gallwch hefyd ddweud wrthynt sut i fynd ati’n ddiogel i herio rhywun sy'n sbeicio os oes unrhyw un o’u ffrindiau’n sbeicio pobl eraill. Gall fod yn frawychus, yn enwedig os mai grŵp o bobl ifanc yn eu harddegau sy’n sbeicio pobl eraill. Efallai y byddant yn teimlo’n ofnus neu’n credu nad eu cyfrifoldeb nhw yw sefyll i fyny dros bobl eraill sy’n cael eu sbeicio.
Os yw'n cael ei drafod ymysg eu grŵp cyfoedion, gallent wneud y canlynol:
Os ydyn nhw’n ei weld yn digwydd, gallant:
Gall hefyd helpu i siarad â chi neu oedolyn arall maen nhw’n ymddiried ynddo.
Os ydych chi’n amau eich person ifanc neu’n darganfod ei fod yn sbeicio pobl eraill, peidiwch â’i anwybyddu.
Gall herio ymddygiad sbeicio helpu i gadw pobl eraill yn ddiogel. Mae’n lleihau’r siawns y bydd y person ifanc yn cyflawni rhagor o droseddau sbeicio ac o bosibl yn cael cofnod troseddol.
Peidiwch â chynhyrfu a gwnewch eich gorau i beidio â gwylltio. Os ydy eich person ifanc yn gwrthod ymateb neu’n ymateb yn flin, cerddwch i ffwrdd. Peidiwch â gwthio’r mater.
Os yw’r sefyllfa’n gwaethygu, rhowch wybod i’r heddlu am eich pryderon. Gall hyn fod yn benderfyniad anodd, ond gallai atal niwed i eraill a rhoi eich person ifanc yn ôl ar y trywydd iawn.
Rhagor o gyngor am sut i siarad â phobl ifanc yn eu harddegau