Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae angen y polisi hwn a’r ddogfen weithdrefn gysylltiedig er mwy cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg. Mae’r Hysbysiad Cydymffurfio a gynhyrchwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg yn unol â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn gorfodi Safonau penodol ar Heddlu Dyfed-Powys a Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu (SCHTh) mewn perthynas â’r gwasanaeth mae’n rhaid inni ddarparu i’n staff, swyddogion a chymunedau drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae’r Hysbysiadau Cydymffurfio hefyd yn darparu Safonau penodol o ran gwersi Cymraeg y dylem fod yn eu darparu i’n staff, swyddogion a gwirfoddolwyr.
Yn berthnasol (ond heb fod yn gyfyngedig) i’r canlynol: Pob categori o swyddogion a staff Heddlu Dyfed-Powys, boed yn llawn amser, rhan amser, parhaol, cyfnod penodol, dros dro (gan gynnwys staff asiantaeth, cymdeithion a chontractwyr), staff ar secondiad a gwirfoddolwyr. Rhaid i swyddogion heddlu, staff a gwirfoddolwyr sy’n cyrchu a defnyddio asedau ac eiddo’r heddlu roi sylw dyledus i gynnwys y polisi hwn.
Mae Heddlu Dyfed-Powys a Chomisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys yn cydnabod y manteision ar gyfer ei staff, swyddogion a gwirfoddolwyr o ran cael y sgiliau Cymraeg gofynnol i ddarparu gwasanaeth Cymraeg i’n cymunedau. Maent hefyd yn cydnabod y manteision i’n cymunedau o ran gallu sgwrsio ag aelodau o Heddlu Dyfed-Powys a SCHTh drwy eu dewis iaith.
Nod y polisi hwn yw nodi ymrwymiad Heddlu Dyfed-Powys a SCHTh i hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle. Mae’r polisi hwn a’r weithdrefn gysylltiedig hefyd yn sicrhau bod gan yr holl staff a swyddogion yn Heddlu Dyfed-Powys a SCHTh sy’n ceisio bodloni gofynion y sefydliad o ran y Gymraeg, a/neu sydd â diddordeb mewn dysgu Cymraeg, yr holl wybodaeth berthnasol o ran sut y gallant wneud cais am wersi mewnol. Y mae hefyd yn anelu i roi’r wybodaeth berthnasol ofynnol i reolwyr llinell i’w galluogi i gefnogi eu staff a’u swyddogion i wneud ceisiadau o’r fath.
Mae’r polisi hwn yn berthnasol ar gyfer pob aelod staff, swyddog a gwirfoddolwr yn Heddlu Dyfed-Powys.
Mae angen y polisi hwn er mwyn cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg.
Dogfen weithdrefn gysylltiedig:
Gofynion cyfreithiol:
Gofyniad Iaith Gymraeg Lefel 1 Heddlu Dyfed-Powys
Disgwylir i holl swyddogion a staff Heddlu Dyfed-Powys gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg hyd lefel 1. Os nad yw staff a swyddogion yn gallu cyfathrebu i’r lefel hon, rhoddir 6 mis iddynt gyrraedd y lefel hon ar ôl iddynt gael eu penodi. Mae cyfleoedd ar gyfer dysgu Cymraeg yn Heddlu Dyfed-Powys i gynorthwyo staff a swyddogion i gyrraedd y lefel hon. Gan ddibynnu ar y rôl, mae’n bosibl y bydd angen lefel uwch.
Os oes gweithiwr yn cael trafferth bodloni’r gofyniad hwn, bydd Heddlu Dyfed-Powys yn cydweithio drwy gynllun cymorth wedi’i deilwra, gan gynnig addasiadau rhesymol lle bo’n ofynnol a chymesur. Gall hyn gynnwys amser ychwanegol, cymorth un-i-un gan hyrwyddwr, neu ddulliau asesu amgen. Bydd adolygiadau rheolaidd yn sicrhau adborth teg ac adeiladol. Os bydd gweithiwr yn methu â bodloni’r gofyniad serch y cymorth hwn, gellir cymryd camau pellach yn unol â’n polisi rheoli perfformiad. Ein nod yw creu amgylchedd ddysgu cefnogol tra’n cynnal safonau busnes hanfodol.
DPPi2 (Mewnrwyd Heddlu Dyfed-Powys)
Gall Heddlu Dyfed-Powys a SCHTh gael mynediad i dudalen fewnrwyd yr adran Cydraddoldeb, Amrywiaeth a’r Gymraeg, sy’n cynnwys adnoddau sy’n gysylltiedig â’r Gymraeg. Mae’r dudalen yn cael ei diweddaru â gwybodaeth am Safonau’r Gymraeg, geirfa, canllawiau a nifer o adnoddau i gefnogi defnyddio’r Gymraeg yn y gwaith.
Hyrwyddwyr Cymraeg
Mae Heddlu Dyfed-Powys a SCHTh yn gweithredu cynllun Hyrwyddwyr Cymraeg sy’n cael ei hwyluso a’i fonitro gan yr adran Cydraddoldeb, Amrywiaeth a’r Gymraeg. Diben y cynllun yw cefnogi dysgwyr sydd wedi dysgu digon o Gymraeg i gynnal sgwrs yn yr iaith. Amcanion y cynllun yw:
Meddalwedd Iaith Gymraeg
‘Cysill’ a ‘Cysgeir’
Mae gan bob swyddog, aelod staff a gwirfoddolwr fynediad i feddalwedd sy’n gallu eu cynorthwyo i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle.
Pecynnau Microsoft yn Gymraeg
Mae pob swyddog, aelod staff a gwirfoddolwr yn medru defnyddio pecynnau Microsoft Windows a Microsoft Office yn Gymraeg.
Bathodynnau Cymraeg
Gall pob aelod staff, swyddog a gwirfoddolwr gael bathodynnau sy’n dangos pa un ai a ydynt yn siaradwyr Cymraeg neu’n dysgu Cymraeg. Mae bathodynnau o’r fath ar gael gan yr adran Dysgu a Datblygu ar gyfer aelodau staff a gwirfoddolwyr, a gan Storfeydd Pencadlys yr Heddlu ar gyfer SCCH a Swyddogion Heddlu.
Cyfleusterau Cyfieithu
Er mwyn cynorthwyo swyddogion, staff a gwirfoddolwyr i gyflwyno gwasanaeth Cymraeg i’w cymunedau, gall yr Uned Gyfieithu ddarparu cymorth cyfieithu yn ôl yr angen. Gellir gwneud cais am y gwasanaeth hwn drwy'r system Traciwr Llif Gwaith. Mae dolen i’r traciwr ar dudalen gartref y fewnrwyd. Gellir cael mynediad at ddogfen Cytundeb Lefel Gwasanaeth wrth ddefnyddio’r Traciwr Llif Gwaith, sy’n amlinellu’r amserlenni ar gyfer dychwelyd gwaith a sut i gyflwyno cais.
Cymorth ar gyfer Cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg
Mae gan yr adran Cydraddoldeb, Amrywiaeth a’r Gymraeg gyfrifoldeb cyffredinol am gefnogi Heddlu Dyfed-Powys i gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg.
Mae’r Rheolwr Busnes yn gyfrifol am sicrhau cydymffurfiaeth ar gyfer SCHTh Dyfed-Powys, gyda chymorth gan Adran Cydraddoldeb, Amrywiaeth a’r Gymraeg Heddlu Dyfed-Powys.
Mae cymorth o’r fath yn cynnwys darparu cyngor yn ysgrifenedig ac ar lafar mewn perthynas â chydymffurfio, datblygu canllawiau a dogfennau ategol, a chyfeirio at gymorth perthnasol sydd ar gael i ddysgu a datblygu iaith.
Yr adran Cydraddoldeb, Amrywiaeth a’r Gymraeg sydd â chyfrifoldeb cyffredinol am hyrwyddo’r Gymraeg drwy ymgyrchoedd mewnol rheolaidd.
Yr Iaith ar Waith
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn hwyluso ac yn cefnogi hwyluso Yr Iaith ar Waith. Mae SCHTh hefyd yn mynychu cyfarfodydd y grŵp hwn.
Diben y grŵp hwn, sy’n cwrdd bob chwarter, yw hyrwyddo gwerth a phwysigrwydd y Gymraeg ar gyfer Heddlu Dyfed-Powys a SCHTh a datblygu gwaith o gwmpas y Gymraeg ar lefel dactegol ymhellach. Fforwm ydyw lle y gellir datrys materion a godir yn fewnol, boed hynny drwy’r Hyrwyddwyr Cymraeg, y Grŵp Cofleidio Cynrychiolaeth Amrywiol, adrannau neu aelodau staff, swyddogion a gwirfoddolwyr, drwy gydweithio rhwng adrannau.
Yn ogystal â datrys materion sydd wedi’u dwyn i’w sylw, mae’r grŵp hefyd yn edrych ar ddatblygu a hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg o fewn Heddlu Dyfed-Powys a SCHTh yn rhagweithiol. Am ragor o fanylion am gylch gwaith y grŵp, darllenwch y cylch gorchwyl.
Cyfleoedd i ddysgu Cymraeg
Mae Heddlu Dyfed-Powys a SCHTh yn darparu cyfleoedd i staff, swyddogion a gwirfoddolwyr fynychu gwersi Cymraeg.
Cynigir hyfforddiant yn y Gymraeg i swyddogion sy’n fyfyrwyr a SCCH wrth hyfforddi yn y Pencadlys i’w cefnogi i ddefnyddio Cymraeg sgyrsiol sylfaenol gyda’r cyhoedd a chydymffurfio â Safonau’r Gymraeg.
Fel rhan o drosglwyddo i Heddlu Dyfed-Powys, rhoddir cyflwyniad er mwyn sicrhau dealltwriaeth o Safonau’r Gymraeg a darparu hyfforddiant sylfaenol i’w cefnogi i gyrraedd y gofyniad Lefel 1.
Cynigir hyfforddiant Cymraeg i bob Ardal Blismona Leol unwaith y flwyddyn o leiaf er mwyn cefnogi swyddogion i gyrraedd y gofyniad Lefel 1.
Cyflwynir cyrsiau yn unol â Strategaeth Iaith Gymraeg Heddlu Dyfed-Powys.
Er bod Heddlu Dyfed-Powys a SCHTh yn ceisio sicrhau bod cyfleoedd dysgu ar gael ar gyfer pob aelod staff a swyddog sydd eisiau cymryd rhan, nodir y bydd llefydd yn cael eu cynnig ar sail ‘y cyntaf i’r felin’ mewn rhai achosion os bydd cwrs yn llawn. Cymerir pob gofal i gynnig cwrs amgen, fodd bynnag, os na fydd hyn yn bosibl, rhoddir enwau ar restr aros rhag ofn bydd llefydd ar gael. Yn ogystal, rhennir dyddiadau ar gyfer cyrsiau newydd â phartïon â diddordeb sydd ar y rhestr aros cyn eu bod nhw’n cael eu rhannu ar y fewnrwyd neu drwy e-bost ar gyfer pob defnyddiwr er mwyn rhoi pob cyfle i’r unigolion hynny fynychu’r cyrsiau.
Rhoddir amser i staff, swyddogion a gwirfoddolwyr fynychu cyrsiau yn ystod eu diwrnod gwaith.
Ceir manylion ynghylch sut i wneud cais ar gyfer cyrsiau Cymraeg drwy’r ddogfen weithdrefn.
Cwynion, perfformiad a materion disgyblu
Mae prosesau a pholisïau sy’n ymwneud â’r materion hyn yn cynnwys gwybodaeth am Safonau’r Gymraeg. Cyfeiriwch at y dogfennau hyn yn uniongyrchol am wybodaeth ynglŷn â sut mae Heddlu Dyfed-Powys yn cydymffurfio â’r Hysbysiad Cydymffurfio.
Tryloywder
Mae Heddlu Dyfed-Powys a SCHTh yn cyhoeddi strategaeth, adroddiad blynyddol a gwybodaeth am yr holl safonau perthnasol. Cyhoeddir dogfennau strategaeth, adroddiadau blynyddol a hysbysiadau penderfyniad/adroddiadau ymchwiliad ar y gwefannau unigol:
Y Cod Moeseg
Mae egwyddorion y Cod Moeseg yn berthnasol i’r polisi hwn:
Adolygir y polisi hwn a’r ddogfen weithdrefn gysylltiedig bob tair blynedd.
Mae’r Swyddog Cydraddoldeb, Amrywiaeth a’r Gymraeg o fewn yr Adran Cydraddoldeb, Amrywiaeth a’r Gymraeg yn gyfrifol am adolygu’r polisi a’r weithdrefn.
Bydd y Cyd-bwyllgor Ymgynghori a Negodi a’i gyfarfod ymgynghorol anffurfiol yn goruchwylio ac yn cymeradwyo unrhyw ddiwygiadau i’r polisi neu’r ddogfen weithdrefn. Bydd y polisi hefyd yn cael ei fonitro ar gyfer effeithiolrwydd yn y grŵp Yr Iaith ar Waith.
COD MOESEG - TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO'R DDEDDF HAWLIAU DYNOL
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Rhagfyr 2024