Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (diddymu gwahaniaethu, hybu cyfle cyfartal, a meithrin perthynas dda) yn gymwys i ddefnyddwyr ein gwasanaethau yn ogystal â’r bobl a gyflogir gennym (swyddogion a staff yr heddlu).
Ar y 10fed Medi 2011, daeth Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Penodol) 2011 i rym. Er mwyn cydymffurfio â'r Dyletswyddau Penodol, mae’n ofynnol i Heddluoedd Cymru a Lloegr baratoi un neu ragor o amcanion cydraddoldeb sydd, yn eu barn hwy, yn rhai y mae angen eu cyflawni er mwyn:
Ar ôl ymgynghori ac ymgysylltu ag aelodau o’n cyhoedd, a’n staff a’n swyddogion, cytunwyd ar yr amcanion canlynol fel blaenoriaethau ar gyfer yr Heddlu dros y 4 blynedd nesaf:
Ceir esboniad llawn o sut wnaethom nodi’r amcanion cydraddoldeb hyn, ynghyd â’r camau gweithredu rydyn ni’n bwriadu ymgymryd â nhw, yn ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-2024.
Diben y cynllun hwn yw nodi blaenoriaethau Heddlu Dyfed-Powys (HDP) a Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu (SCHTh) dros y pedair blynedd nesaf o ran bodloni Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus.
Bydd y cynllun hwn yn nodi ein blaenoriaethau ar y cyd ar gyfer bodloni Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus dros y pedair blynedd nesaf. Bydd yr amcanion o fewn y cynllun hwn yn sbarduno cynnydd yn erbyn ein cydymffurfiaeth gyffredinol â Deddf Cydraddoldeb 2010, gan sicrhau ein bod ni’n darparu gwasanaeth teg a chyfartal i’n cymunedau, yn ogystal â’n helpu i ddod yn gyflogwyr o ddewis ar gyfer ein gweithluoedd.
Byddwn ni’n cynhyrchu adroddiad blynyddol sy’n nodi’r cynnydd rydyn ni wedi gwneud yn erbyn yr amcanion, ynghyd â’n blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn ganlynol. Bydd yr adroddiadau’n cael eu cyhoeddi ar y wefan hon er mwyn i’r cyhoedd eu gweld.
Os oes angen unrhyw wybodaeth bellach arnoch, cysylltwch â ni drwy:
Tîm Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Heddlu Dyfed-Powys
Pencadlys yr Heddlu
Blwch Post 99
Llangynnwr
Caerfyrddin SA31 2PF
Cysylltu ar lein yma
E-bost: [email protected]
Ffôn:101
Gwasanaeth negeseuon testun difrys gyfer pobl sy’n fyddar, sy’n drwm eu clyw, neu sydd â nam ar eu lleferydd: Mae gan Heddlu Dyfed-Powys wasanaeth negeseuon testun difrys ar gyfer pobl sy’n fyddar, sy’n drwm eu clyw, neu sydd â nam ar eu lleferydd. Does dim angen i chi gofrestru er mwyn defnyddio’r gwasanaeth hwn, ond byddai o gymorth i Heddlu Dyfed-Powys pe baech chi’n rhoi’ch manylion cyswllt i ni. Y rhif ffôn symudol yw: 07811 311 908.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Ddeddf Cydraddoldeb 2010.