Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Mae dynes a gafodd ei stelcio gan ddieithryn am 12 mlynedd wedi disgrifio sut mae’n teimlo fel carcharor yn ei chartref ei hun o ganlyniad i’w ymddygiad obsesiynol a rheolaethol.
 hithau’n methu â theimlo’n ddiogel yn ei chartref ei hun, yr ardd neu’r dref, bod ar ben ei hun ar unrhyw adeg, na gadael ei drysau heb eu cloi heb gael ei pharlysu gan ofn, mae bywyd Lara wedi’i chwalu’n llwyr gan ddyn y cyfarfu ag ef ar hap, ac a oedd yn ymddangos yn gwbl ddiniwed i ddechrau.
Mae Lara, y mae ei henw wedi’i newid er mwyn gwarchod ei hunaniaeth, wedi rhannu ei stori fel rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth Stelcio yn y gobaith o godi ymwybyddiaeth o effaith ddinistriol ymddygiad stelcio, a’r ffyrdd y gall dioddefwyr gael eu cefnogi.
Dechreuodd ei phrofiad dros ddegawd yn ôl, pan ddaeth ar draws David drwy ei waith. Er ei fod yn ymddangos yn gyfeillgar, yn fuan iawn, dechreuodd ei bersonoliaeth obsesiynol ymddangos wrth iddo gychwyn cysylltu â hi’n ddyddiol, a gwnaeth ei fwriadau’n glir gyda blodau a nodyn. Buan iawn y gwnaeth hyn i Lara deimlo’n annifyr, a phan gyflwynodd y syniad o symud i mewn gyda hi o fewn cyfnod byr iawn, fe wnaeth Lara ei berswadio i ymbellhau.
Neu dyna a feddyliodd.
“Roeddwn i’n credu mai dyma oedd diwedd y mater,” meddai. “Fodd bynnag, dros y blynyddoedd nesaf, fe welais yn ei gar yn fy nhref yn rheolaidd. Dechreuodd ymdreiddio i bob rhan o’m cymuned – siopau, gweithleoedd, ysgolion, digwyddiadau, busnesau.
“Drwy ei waith, cadarnhaodd ei le yn fy nghymuned.
“Gwelais ef unwaith yr wythnos o leiaf yn y dref, yr ysgol, neu ble bynnag yr oeddwn i’n digwydd bod, ac er ei fod yn codi ofn arnaf ac yn fy ngwylltio i, oherwydd nad oedd i’n ei ddeall nac yn gallu gweithio allan beth oedd e’n ei wneud, doeddwn i ddim yn gallu adrodd amdano.
“Yr oedd mor ystrywgar a chlyfar.”
Unwaith yr oedd wedi ennyn ffydd y bobl yr oedd Lara’n eu hadnabod, datblygodd ei ymddygiad yn ‘stelcio amlwg’ yn ôl disgrifiad Lara. Sylwodd ei fod yn gyrru i’w stryd hi drosodd a throsodd, ac yna fe ddechreuodd parcio ychydig ddrysau i lawr o’i thŷ.
Yn y pen draw, byddai Lara’n aml yn ei weld yn eistedd tu allan i’w chartref, yn ei gwylio o’i gar. Hyd yn oed pan oedd hi wedi gyrru 13 milltir i ffwrdd o’i chartref un dydd i gael coffi’n ddiogel, chwalwyd ei diwrnod pan ddangosodd ei chamera diogelwch ei fod tu allan i’w chartref.
“Wrth edrych yn ôl, rwyf wir yn credu bod y gweithredoedd hirdymor hyn a oedd yn araf ddatblygu yn achosion o stelcio, ond cymerodd y weithred digywilydd ohono’n fy ngwylio dro ar ôl tro yn fy nghartref, tu allan i’m dreif blaen a’m ffenestri, imi sylweddoli pa mor ddifrifol ydoedd,” meddai.
“Newidiodd fy mywyd cyfan. Caeais fy nghyfryngau cymdeithasol am flwyddyn, â’m hynysodd yn llwyr rhag fy ffrindiau a’m cysylltiadau ar-lein.
“Ni allwn adael y tŷ heb fy ffôn yn fy llaw’n recordio, yn barod i gasglu tystiolaeth.
“Roedd yn rhaid imi osod camera a diogelwch ychwanegol, ac ni allwn wneud tasgau syml fel agor y drws cefn i roi’r sbwriel allan, gadael y gath i mewn ac allan, neu fynd allan i’m gardd yn ddiogel.
“Roedd yn rhaid imi gau fy ffenestr flaen i ffwrdd gyda gwahanol lenni, doeddwn i ddim yn gallu ateb fy ffôn yn ddiogel mwyach, mynd i’m tref leol yn ddiogel, na siarad â phobl oherwydd roeddwn i’n ofni y byddent yn rhoi gwybodaeth iddo fe neu ei gymdeithion neu fusnes.
“Doeddwn i ddim yn gallu gwneud unrhyw beth. Roedd rheoli fy niogelwch, ofn a pharanoia yn fy nghadw i’n garcharor.
“Roeddwn i’n ofni pob car a oedd yn dod ar gyfyl fy nhŷ, yn ofni pob llais roeddwn i’n clywed tu allan, yn ofni’r heddlu, yn ofni cymdeithion nad oedd yn fy nghredu neu’n fy nghefnogi.
“Roedd fy mhlentyn a minnau’n cadw morthwyl i fyny’r grisiau. Roedd yn hollysol.”
Ar hyn, adroddodd Lara am David wrth yr heddlu. Casglodd dystiolaeth o’i ymddygiad, gan gynnwys amserau a dyddiadau, a chyflwynodd ffotograffau a fideos.
Ddwywaith, gwnaeth swyddogion gais am orchymyn diogelu rhag stelcio, fodd bynnag, gwrthodwyd y ddau yn y llys gan fod y trothwy tystiolaeth yn rhy uchel ar y pryd. O’r diwedd, roedd trydydd cais yn llwyddiannus gan fod hyd yn oed mwy o dystiolaeth wedi’i chasglu i gryfhau’r achos, a chaniatawyd gorchymyn diogelu rhag stelcio i Lara. Mae’r Swyddfa Gartref wedi lleihau’r trothwy ar gyfer tystiolaeth mor gryf yn awr.
Gorchymyn sifil yw gorchymyn diogelu rhag stelcio. Mae’n ffordd effeithiol o reoli drwgdybyn, gyda’r nod o warchod y dioddefydd a rhoi cydnabyddiaeth ffurfiol iddo o’i bryderon. Mae’r heddlu’n gwneud cais amdano, ac mae torri gorchymyn yn dramgwydd troseddol. Gall y gorchymyn atal y drwgdybyn rhag gwneud rhai pethau penodol, er enghraifft, ni all gysylltu â’r dioddefydd na mynd i fyny at y dioddefydd, neu gyfyngu ar weithgarwch ar-lein, neu fynd i lefydd penodol, megis tŷ neu weithle’r dioddefydd neu gerllaw’r tŷ neu weithle, neu ardaloedd diffiniedig eraill y mae’r dioddefydd yn ymweld â nhw’n rheolaidd. O dan orchymyn diogelu rhag stelcio, efallai bydd yn rhaid i’r troseddwr fynychu rhaglen ymyrraeth, derbyn asesiad iechyd meddwl, ildio ei ddyfeisiau electronig, neu arwyddo mewn gorsaf heddlu hefyd.
Fodd bynnag, mae effaith ymddygiad David wedi newid bywyd Lara am byth.
“Ni allwn fyth dychmygu beth allai obsesiwn dyn wneud i fy mywyd,” meddai. “Braw seicolegol ydoedd, a gwnaeth imi deimlo fel cymryd fy mywyd fy hun.
“Cymerodd fy holl amser i fyny – dyddiau ac oriau cyson yn cael eu llenwi gan gyswllt â’r heddlu â’m gadawodd yn or-wyliadwrus, gyda gorbryder eithafol.
“Roedd yn rhaid imi dderbyn bod fy stelciwr yn dipyn o ddirgelwch. Roedd ganddo ddiddordeb mewn arfau ac eitemau milwrol, a doeddwn i ddim yn gwybod digon am ei hanes, iechyd meddwl, neu ymddygiadau, felly roeddwn i’n teimlo bod perygl gwirioneddol i fy mywyd.
“Des i’r arfer â’r ffaith y gallwn gael fy lladd. Dywedais wrth fy rhieni beth i’w wneud pe bai hynny’n digwydd – roeddwn i’n ei ddisgwyl.
Roedd bod yn fyw, heb fy niweidio’n gorfforol, yn teimlo fel bonws. Fel fy mod i’n un o’r rhai lwcus.
“Roedd fy stelcio’n seicolegol yn bennaf, a dyna oedd ei ddull gweithredu. Doedd e ddim am anrhegion, fy nilyn i, cyswllt ar-lein neu nodiadau, bygythiadau neu niwed corfforol – pŵer a rheolaeth ydoedd.”
Er ei bod hi dal yn cael trafferth byw gydag effeithiau ei phrofiad, drwy rannu ei stori, mae Lara’n gobeithio y gall godi ymwybyddiaeth o stelcio, ac annog mwy o gymorth ar gyfer dioddefwyr a goroeswyr.
“Mae stelcio’n cael ei gamgymryd yn llwyr fel gweithred o angerdd, atyniad a gweniaith,” meddai. “Llofruddiaeth araf ydyw - cam cyntaf tuag at y rhan fwyaf o lofruddiaethau menywod.
“Gwnaed imi deimlo y dylwn fod yn falch. Cafodd ei drin fel gweithredoedd dibwys dyn rhyfedd a oedd yn dangos gormod o ddiddordeb, ac am ‘beth rhyfedd’ i ddigwydd imi, ond mae angen iddo gael ei weld fel y weithred o fraw seicolegol ydyw.
“Fy neges i unrhyw un sy’n adnabod goroeswr stelcio yw gwrando, dangos teyrngarwch a chefnogaeth, ac yn bennaf oll, ei gredu oherwydd os yw’r gymdeithas gyfan, yr heddlu a phob asiantaeth yn cyd-dynnu i sicrhau bod stelcio’n gwbl annerbyniol, drwy rymuso’r dioddefydd a dadrymuso’r troseddwr, gall newid cadarnhaol ddigwydd.”
Er mwyn cael gwybod mwy am arwyddion ymddygiad stelcio, ble i droi am gymorth a sut i adrodd wrth yr heddlu, cliciwch yma: Stelcio ac aflonyddu | Heddlu Dyfed-Powys