Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn yr adran hon:
1. Yr hyn y gallwch chi gwyno amdano |
2. Sut i gwyno am yr heddlu |
3. Beth sy'n digwydd i'ch cwyn |
4. Beth i'w wneud os ydych chi’n anfodlon ar ganlyniad eich cwyn |
Ar ôl ichi wneud cwyn am yr heddlu, mae sawl canlyniad posibl. Mae pob cwyn yn wahanol, ond byddwn yn dilyn y ddeddfwriaeth a chanllawiau Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) i geisio cael ateb boddhaol.
Byddwn ni’n edrych ar eich cwyn a bydd ein tîm safonau yn asesu natur y gŵyn a pha mor ddifrifol yw hi.
Os yw'r rhesymau dros eich cwyn yn glir ac nad oes angen ymchwiliad, byddwn yn ceisio dod yn ôl atoch chi’n gyflym gyda gwybodaeth neu esboniad.
Os oes angen inni edrych yn fanylach ar eich cwyn, byddwn yn cysylltu â chi i egluro'r camau nesaf, sut bydd eich cwyn yn cael ei hymchwilio a sut bydd penderfyniad amdani yn cael ei wneud.
Bydd triniwr cwynion sydd heb gysylltiad uniongyrchol â'ch cwyn yn edrych i mewn iddi. Bydd y triniwr cwynion yn cysylltu â chi i ofyn am unrhyw fanylion coll ac yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Bydd y triniwr cwynion yn gofyn sut hoffech inni gysylltu â chi ac yn rhoi gwybod ichi am y cynnydd.
Rhaid ichi gael diweddariad bob 28 diwrnod ac ar ddiwedd y broses gwyno.
Os byddwch yn gwneud cwyn gychwynnol i'r IOPC, byddan nhw’n anfon y gŵyn ymlaen aton ni. Byddwn ni wedyn yn dilyn yr un broses â phe baech chi wedi cysylltu â ni'n uniongyrchol.
Sylwch, eich heddlu lleol fydd yn delio â’r rhan fwyaf o gwynion.
Sut bynnag y byddwn ni’n ymdrin â’ch cwyn byddwn yn ysgrifennu atoch i roi’r canlyniad ac i egluro a gewch chi ofyn am adolygiad.
Rhagor o wybodaeth am yr hyn y gallwch ei wneud os byddwch chi’n anfodlon ar ganlyniad eich cwyn.
Byddwn ni’n cyfeirio cwynion difrifol sy’n dod i law at yr IOPC.
Mae cwynion difrifol yn cynnwys:
Mae’r IOPC yn cael dewis ymchwilio i’r achosion hyn eu hunain, yn annibynnol arnon ni.
Fyddwn ni ddim yn delio â'ch cwyn os nad yw'n 'rhesymol ac yn gymesur' inni wneud hynny.
Gallai hyn ddigwydd am ein bod ni wedi edrych i mewn iddi’n barod, am fod y digwyddiadau mae'r gŵyn yn ymwneud â nhw heb effeithio arnoch chi’n uniongyrchol neu am fod yna broses fwy priodol ar gyfer codi'r gŵyn, er enghraifft, Cynllun Hawl Dioddefwyr i Adolygiad.
Nesaf: Beth i’w wneud os ydych chi’n anfodlon ar ganlyniad eich cwyn