Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn yr adran hon:
1. Yr hyn y gallwch chi gwyno amdano |
2. Sut i gwyno am yr heddlu |
3. Beth sy'n digwydd i'ch cwyn |
4. Beth i'w wneud os ydych chi’n anfodlon ar ganlyniad eich cwyn |
Cewch chi naill ai cwyno'n uniongyrchol i ni neu gysylltu â Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC). Bydd yr IOPC yn anfon eich cwyn at yr heddlu neu’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu perthnasol ar eich rhan.
Cewch wneud cwyn ar ran rhywun arall, ond os ydyn ni'n symud ymlaen â'r gŵyn honno bydd angen ichi roi eu caniatâd nhw mewn ysgrifen inni.
Dyw hyn ddim yn gymwys os ydych chi’n rhiant neu'n warcheidwad i blentyn 16 oed neu'n iau ac yn dymuno cwyno ar ran y plentyn.
I wneud cwyn am brif gwnstabl un o’r heddluoedd, cysylltwch â'ch Comisiynydd Heddlu a Throseddu (PCC) lleol.
Os ydych chi'n gweithio i'r heddlu ac yn cwyno am rywun sy'n gweithio i'r un heddlu â chi, bydd angen ichi riportio hynny drwy ddefnyddio'r prosesau mewnol sydd yn eu lle yn eich heddlu chi.
Os nad Cymraeg neu Saesneg yw’ch iaith gyntaf, gallwn gynnig cymorth cyfieithu i'ch helpu i wneud eich cwyn.
Os oes gennych chi anabledd neu anhawster ynglŷn â chyfathrebu mewn ysgrifen neu ar lafar, gallwn eich helpu.
Soniwch am eich anghenion wrth gysylltu â ni ynglŷn â'ch cwyn.
Nesaf: Beth sy’n digwydd i’ch cwyn