Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cam-drin plant yw pan fydd unrhyw un dan 18 oed naill ai’n cael ei niweidio neu ddim yn cael y gofal cywir. Mae pedwar prif gategori o gam-drin plant: cam-drin corfforol, cam-drin rhywiol, cam-drin emosiynol ac esgeulustod. Cewch ragor o wybodaeth am bob un isod, yn ogystal â’r arwyddion rhybudd y gallai plentyn fod yn cael ei gam-drin.
Cam-drin corfforol yw pan fydd rhywun yn brifo plentyn neu berson ifanc yn fwriadol.
Enghreifftiau o gam-drin corfforol yw:
Gall arwyddion a symptomau cam-drin corfforol ymhlith plant gynnwys:
Dim ond ychydig o enghreifftiau yw’r uchod.
Cam-drin rhywiol yw pan fydd plentyn yn cael ei gymell neu ei orfodi i gymryd rhan mewn gweithgareddau rhywiol. Nid yw’r math hwn o gam-drin bob amser yn cynnwys lefel uchel o drais ac efallai na fydd y plentyn yn ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd.
Gall y gamdriniaeth gael ei chyflawni gan ddynion a menywod mewn oed, neu gan blant eraill.
Enghreifftiau o gam-drin rhywiol yw:
Gall arwyddion a symptomau cam-drin corfforol ymhlith plant gynnwys:
Dim ond ychydig enghreifftiau yw’r uchod. Math arall o gam-drin rhywiol yw camfanteisio'n rhywiol ar blant.
Mae cam-drin emosiynol yn digwydd mewn nifer o ffyrdd gwahanol. Gall effeithio sut mae person ifanc neu blentyn yn teimlo amdano’i hun, neu sut mae’n ymwneud â ffrindiau, yn yr ysgol, lle bynnag y mae’n byw.
Enghreifftiau o gam-drin emosiynol yw:
Gall arwyddion a symptomau cam-drin emosiynol gynnwys:
Dim ond ychydig o enghreifftiau yw’r uchod.
Esgeulustod yw pan fo anghenion sylfaenol plentyn neu berson ifanc ddim yn cael eu diwallu yn gyson gan riant neu warcheidwad.
Mae’r anghenion sylfaenol hyn yn cynnwys:
Gall arwyddion a symptomau esgeulustod gynnwys:
Dim ond ychydig o enghreifftiau yw’r uchod.
Os ydych chi’n amau bod plentyn yn dioddef camdriniaeth, hyd yn oed os nad ydych yn siŵr, dywedwch wrth rywun. Gallwch weld y gwahanol ffyrdd y gallwch gysylltu ar ein tudalen Sut i riportio achos posibl o gam-drin plant.