Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Os ydych chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod yn dioddef camdriniaeth, cofiwch gysylltu. Gallwch ddefnyddio unrhyw rai o’r ffyrdd a restrir isod. Rydym yn gwybod y gall cymryd y cam cyntaf fod yn anodd. Efallai na fyddwch yn gwybod beth yn union sydd o’i le, neu efallai bod gennych gywilydd o rywbeth sydd wedi digwydd. Cofiwch ein bod yma i wrando a gwneud yn siŵr eich bod chi a phlant eraill yn ddiogel.
Os ydych chi’n amau bod rhywun mewn perygl ar hyn o bryd, ffoniwch 999 nawr. Os oes gennych nam ar eich clyw neu’ch lleferydd, defnyddiwch ein gwasanaeth ffôn testun 18000 neu tecstiwch ni ar 999 os ydych wedi cofrestru ymlaen llaw ar gyfer y gwasanaeth SMS brys.
Os nad yw’n argyfwng, cysylltwch gan ddefnyddio unrhyw rai o’r ffyrdd eraill hyn:
Cofiwch, beth bynnag sydd wedi digwydd nid eich bai chi ydyw, er efallai y dywedwyd hynny wrthych. Yn aml gwneir plant i deimlo mai nhw sydd ar fai, neu na fydd rhywun yn eu credu, neu y bydd rhywbeth drwg yn digwydd iddynt hwy neu eu teulu, ond bygythiad yw hyn er mwyn eu stopio rhag dweud wrth unrhyw un. Nid ydych chi ar fai.
Rydym yn gweithio gyda gweithwyr cymdeithasol a fydd yn eich cefnogi, ac mae gennym swyddogion mewn dillad plaen sydd wedi'u hyfforddi’n arbennig a fydd yn gwrando ar yr hyn sydd gennych i’w ddweud.
Byddwn yn esbonio beth fydd yn digwydd ar bob cam ac yn gwneud yn siŵr eich bod yn deall. Ni fyddwn y gwneud i chi wneud unrhyw beth nad ydych am ei wneud ond rydym eisiau gwneud yn siŵr eich bod chi ac unrhyw blant eraill yn ddiogel. Os byddwch yn penderfynu peidio â dweud wrth eich rhieni gallwn roi manylion pobl ac asiantaethau fydd yn gallu eich cefnogi. Byddwn bob amser yn rhoi ystyriaeth i’ch teimladau.
Rydym yn gweithio’n galed i amddiffyn plant a gwneud yn siŵr eu bod yn ddiogel ac yn byw bywydau hapus ac iach. Rydym eisiau atal unrhyw un rhag cael ei anafu neu ei roi mewn perygl.
Efallai y bydd ofn ar eich ffrind neu aelod o’ch teulu neu y bydd ef/hi wedi’i anafu. Gwrandewch yn astud ar yr hyn sydd ganddynt i’w ddweud a cheisiwch eu perswadio i ddweud wrth oedolyn y maent yn ymddiried ynddo/ynddi - efallai eu rhieni, perthynas, ffrind i’r teulu neu athro/athrawes. Efallai y byddant am i chi fynd gyda nhw i ddweud wrth y person hwnnw. Os nad ydynt eisiau dweud wrth unrhyw un, dylech ddweud wrth oedolyn yr ydych chi’n ymddiried ynddo/ynddi nad sy’n rhan o beth sydd wedi digwydd. Gallant helpu i benderfynu beth i’w wneud.