Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ydych chi’n frwd dros ddiogelwch defnyddwyr y ffyrdd, ac eisiau gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eich cymuned? Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gyffrous i geisio hyfforddwyr cymwys a medrus i gyflwyno’r cwrs Cynllun Cenedlaethol Ailhyfforddi Troseddwyr Gyrru (NDORS) ar draws ardal ddaearyddol yr heddlu. Menter genedlaethol yw NDORS a weinyddir gan UK ROEd. Fe’i cynigir i unigolion sydd wedi cyflawni mân droseddau moduro fel dewis addysgol amgen yn lle hysbysiad cosb benodedig neu weithdrefnau llys. Nod y cynllun yw gwella agweddau gyrru, annog newidiadau ymddygiadol a gwella diogelwch y ffyrdd.
Fel darparwr cwrs NDORS trwyddedig, mae HDP yn cyflwyno’r gyfres lawn o gyrsiau NDORS, gan gynnwys:
Cwrs Ymwybyddiaeth Cyflymder Cenedlaethol
Cwrs Ymwybyddiaeth Traffyrdd Cenedlaethol
Beth sy'n Ein Gyrru Ni?
Gyrru Diogel ac Ystyriol
Cwrs Cenedlaethol Ymwybyddiaeth o Risg Beiciwr
Fel hwyluswr cwrs, bydd cyfle gyda chi i fod o fudd uniongyrchol i ddiogelwch holl ddefnyddwyr y ffyrdd drwy helpu troseddwyr i ddeall pwysigrwydd gyrru mwy diogel a’u hannog i wneud newidiadau sy’n para. Ar gyfer y rôl hon, mae angen sgiliau cyfathrebu ardderchog, ymagwedd broffesiynol, a’r gallu i ymgysylltu â chyfranogwyr a’u hannog i gymryd cyfrifoldeb dros eu gyrru.
Am ragor o wybodaeth ynghylch y cynllun NDORS, galwch heibio i www.ukroed.org.uk.
Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys yn gwahodd ceisiadau ar gyfer cyflenwi’r cyrsiau NDORS ar ran Heddlu Dyfed-Powys (HDP). Dim ond y rhai sydd yn bodloni’r meini prawf a nodir gan UK ROEd ac sy’n medru cynrychioli HDP yn broffesiynol i’r cyhoedd fydd yn cael eu hystyried ar gyfer y cytundeb hwn.
Bydd Cynllun Ailhyfforddi Gyrwyr HDP yn cydlynu ac yn rheoli’r cyrsiau NDORS, gan gynnwys pennu cyrsiau i hyfforddwyr a derbyn cleientiaid ar gyrsiau. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio’n agos â’r Cynllun Ailhyfforddi Gyrwyr, a fydd yn pennu cyrsiau yn seiliedig ar argaeledd hyfforddwyr.
Mae angen bod hyfforddwyr yn medru cyflwyno cyrsiau yn Gymraeg neu Saesneg, neu’r ddwy iaith.
Cyflwynir cyrsiau mewn tri fformat, a chaiff ymgeiswyr wneud cais ar gyfer un neu fwy o’r dulliau cyflenwi canlynol:
Anogwn hyfforddwyr i wneud cais ar gyfer sawl cwrs, er nad yw hyn yn orfodol.
Cyflwynir cyrsiau drwy gydol yr wythnos waith, gan gynnwys gyda’r hwyr ac ar Sadyrnau, gan gynnig hyblygrwydd ar gyfer y rhai sy’n ceisio cydbwyso gwaith gydag ymrwymiadau eraill.
Er mwyn gwneud cais ar gyfer rôl hyfforddwr neu hyfforddwr gyrru, mae’n rhaid ichi fodloni’r sgiliau a chymwysterau penodol sy’n ofynnol gan UK ROEd ar gyfer cyflwyno cyrsiau NDORS. Dylai ymgeiswyr fedru dangos eu bod yn bodloni’r meini prawf a amlinellir yn y manylebau person ar gyfer pob rôl. Hefyd, bydd angen i hyfforddwyr a hyfforddwyr gyrru gwblhau hyfforddiant ac asesiadau’n llwyddiannus ar gyfer cyflwyno cyrsiau NDORS.
Tystysgrif Uwch y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd:
Rhaid bod gan y contractwr dystysgrif Uwch y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ac wedi’i gofrestru gyda’r Gwasanaeth Diweddaru lle bydd gwiriadau blynyddol yn cael eu cynnal. Bydd methu’r gwiriadau’n arwain at geisiadau’n cael eu dileu o’r Cynllun.
Fel rhan o’r dogfennau cytundeb, efallai bydd angen ichi ymrwymo i gytundebau Cyfrinachedd a/neu Brosesu/Datgelu Data yn ôl yr angen.
Rhaid bod gan bob hyfforddwr llwyddiannus yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus mewn grym hyd at werth £5,000,000 ac Atebolrwydd Proffesiynol hyd at werth £1,000,000. Rhaid i hyfforddwyr mewn car hefyd sicrhau bod yswiriant, treth ac MOT (lle bo’n berthnasol) ganddynt ar gyfer eu cerbyd, mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth traffig ffyrdd.
Ar ôl cael eu penodi, darperir hyfforddiant cynefino gan Heddlu Dyfed-Powys, gan gynnwys hyfforddiant ar y systemau a ddefnyddir i reoli’r cynllun. Disgwylir i hyfforddwyr lwyddo mewn asesiadau ysgrifenedig a chael eu hasesu wrth iddynt gyflwyno cwrs yn fyw gan fonitor UK ROEd. Disgwylir hyfforddiant parhaus, gan gynnwys presenoldeb mewn digwyddiadau Datblygiad Proffesiynol Parhaus, drwy gydol y cytundeb. Noder fod yr holl hyfforddiant yn cael ei gwblhau yn ystod amser y contractwr ei hun, ac ni fyddant yn cael eu talu am hyn.
Bydd hyfforddwyr yn destun asesiadau a gwiriadau sicrhau ansawdd rheolaidd er mwyn gwneud yn siŵr bod safonau UK ROEd a Heddlu Dyfed-Powys yn cael eu bodloni. Mae hyn yn cynnwys asesiadau bob chwe mis gan UK ROEd a monitro mewnol gan HDP. Gall methu â bodloni safonau arwain at hyfforddiant ychwanegol neu gael eich dileu o’r rhestr hyfforddwyr cymeradwy.
Telir hyfforddwyr yn unol â’r cyfraddau canlynol:
Bydd taliadau’n cael eu prosesu yn unol â rheoliadau IR35, sy’n golygu y bydd cyfraniadau Treth ac Yswiriant Gwladol yn cael eu tynnu o’ch anfoneb ar gyfraddau perthnasol y Llywodraeth. O ganlyniad, ni fyddwch yn cael eich ystyried yn weithiwr cyflogedig ac ni fydd hawl gennych i fuddion gweithiwr cyflogedig.
Gwneir taliadau drwy BACS.
Bydd Hyfforddwyr Gyrru wedi’u heithrio o reolau IR35, ac ni wneir didyniadau o’u hanfonebau.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais am swydd fel hyfforddwr gyrru neu hwylusydd cwrs NDORS gyda Heddlu Dyfed-Powys:
I wneud cais am y cyfle hwn, gellir anfon ceisiadau’n uniongyrchol at : [email protected]
Lawrlwythwch ddogfennau ymgeisio isod.
Hyfforddwr Digidol a Dosbarth –
Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn Hyfforddwr Digidol a Dosbarth, lawrlwythwch y dogfennau canlynol a’u dychwelyd at : [email protected]
Cais Hyfforddwr Gyrru
Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn Hyfforddwr Gyrru, lawrlwythwch y dogfennau canlynol a’u dychwelyd at: [email protected]
Am fwy o wybodaeth am gyfnod y gwasanaeth neu delerau ac amodau, lawrlwythwch y dogfennau isod.