Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Drwy ddeall beth i chwilio amdano, megis arwyddion rhybudd posibl bod person ifanc efallai’n cael ei ecsbloetio a gwybod pa wybodaeth all helpu i atal trosedd, gall y cyhoedd chwarae rhan hollbwysig mewn cadw pobl ifanc yn ddiogel ac achub bywydau.
Weithiau bydd pobl sy’n ymwneud â throseddu yn manteisio ar bobl ifanc ac yn eu camddefnyddio i wneud pethau na fyddent fel arfer yn eu gwneud, megis helpu i werthu cyffuriau, cario arfau neu ddwyn, sy’n rhoi pobl ifanc mewn perygl.
Mae’r tactegau y mae’r bobl hyn yn eu defnyddio yn glyfar, ac efallai na fydd rhywun yn deall eu bod yn cael eu camddefnyddio. Gallant gynnwys:
Mae’r tactegau hyn yn aml yn golygu bod y person ifanc wedyn yn eu dyled a bydd angen dychwelyd y ffafr, megis cario arfau neu werthu cyffuriau. Nid oes ganddynt unrhyw broblem gyda rhoi person ifanc mewn perygl i wneud arian.
Gwyddom fod rhai pobl ifanc, o’u rhoi mewn sefyllfa anodd a brawychus, wedi gwneud penderfyniadau yn ddifeddwl sydd yn anffodus wedi newid eu bywydau a bywydau pobl eraill am byth.
Gall gwybod am arwyddion gangiau’n meithrin perthynas amhriodol olygu y gallwch chi helpu person ifanc cyn ei bod hi’n rhy hwyr – cyn iddynt gael eu brifo neu wneud rhywbeth y byddant yn ei ddifaru yn y pen draw.
Os ydych chi’n poeni am berson ifanc yna mae yna bethau y gallwch gadw llygad amdanynt - newidiadau bychan mewn ymddygiad a allai fod yn arwydd:
Mae’n bosibl bod llawer o’r arwyddion hyn yn deillio o heriau nodweddiadol pobl ifanc yn eu harddegau ac yn rhan o dyfu i fyny, pwysau arholiadau, perthnasoedd pobl ifanc yn eu harddegau neu faterion eraill sy’n peri straen. Ond gallent hefyd fod yn arwyddion bod person ifanc yn cael ei gamddefnyddio gan droseddwyr neu gangiau.
Os ydych chi’n poeni, siaradwch â’r person ifanc a soniwch am eich pryderon. Gofynnwch iddo/iddi am eu pryderon a thrafodwch beth allwch chi ei wneud i helpu.
Gallwch hefyd siarad â’u hysgol, gweithiwr ieuenctid neu’ch tîm heddlu lleol.
Weithiau gall cael sgyrsiau anodd, er y gallant fod yn anghyfforddus ar y pryd, atal rhywbeth mwy difrifol rhag digwydd.
Os nad chi yw rhiant neu ofalwr uniongyrchol y person ifanc, siaradwch â’i deulu/gofalwyr am y mater a nodwch eich pryderon, neu cysylltwch â’ch tîm plismona bro (gallwch hefyd ffonio 101 a gofyn i gael siarad â’ch heddlu lleol).