Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Os felly, mae’n debyg eich bod chi’n mynd trwy gymysgedd fawr o emosiynau - ofn, pryder, dicter, poen.
Os yw ffrind neu aelod o’r teulu wedi dioddef trosedd cyllyll yna dylech chi, neu rywun agos at eich ffrind, gysylltu â’r heddlu os nad ydynt wedi cael gwybod yn barod. Gallwch wneud hyn drwy siarad â’u Swyddog Cyswllt Ysgolion, eich Tîm Plismona Bro lleol neu, os yw’n argyfwng, ffoniwch 999 nawr, yn enwedig os ydynt yn dal mewn perygl.
Os ydynt wedi cael eu bygwth ond heb eu hanafu mae’n dal i fod yn fater i’r heddlu a dylid riportio’r digwyddiad - rydym am amddiffyn pobl cyn i unrhyw beth ddigwydd iddynt neu cyn iddynt gael eu rhoi mewn sefyllfa a’u bod yn gwneud rhywbeth y byddant yn ei ddifaru. Gallwn gymryd camau i ddiogelu’r person hwnnw.
Cysylltwch os gwelwch yn dda. Gallwch ddod o hyd i'r ffordd orau i gysylltu â ni yma.
Os ydych yn teimlo na allwch siarad â’r heddlu, gallech gysylltu ag elusen Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111 (nid oes rhaid i chi roi eich enw ac ni fydd eich galwad yn cael ei olrhain).
Yn dibynnu ar ba fath o ddigwyddiad y maent wedi bod yn rhan ohono, efallai y bydd eich ffrind neu blentyn yn profi sawl math o emosiwn:
Efallai mai chi yw un o’r unig bobl y maent yn teimlo y gallant fod yn onest â nhw. Anogwch nhw i siarad â’r heddlu os nad ydynt wedi gwneud hynny eisoes. Os nad ydych yn meddwl eu bod yn mynd i wneud yr alwad, efallai y gallech siarad â rhywun fel rhiant neu athro, neu ffonio’r heddlu eich hun.
Os yw’ch plentyn neu ffrind wedi dioddef y math yma o drosedd, ac wedi’i anafu’n ddifrifol neu waeth, mae’n debyg eich bod nawr yn mynd drwy alar na fydd y rhan fwyaf o bobl byth yn ei brofi.
Os nad yw Cymorth i Ddioddefwyr wedi cysylltu â chi eisoes, efallai yr hoffech ofyn am gymorth drwy ein tudalen sefydliadau cymorth i ddioddefwyr a thystion.
Gall fod yn hynod bryderus meddwl bod eich plentyn, aelod o’ch teulu neu ffrind yn gysylltiedig â rhywbeth mor beryglus â throseddau gangiau, cyllyll neu ynnau.
Efallai nad ydynt yn cario arf eu hunain ond eu bod yn ymwneud â phobl sydd yn gwneud hynny. Yr ymateb naturiol yw panig - ond ni fydd hyn yn datrys y sefyllfa a gallai eu gwthio i ffwrdd.
Fodd bynnag, gallai canlyniadau peidio â gweithredu fod yn hynod ddifrifol i’ch plentyn neu rywun arall. Rhaid i chi wneud rhywbeth yn ei gylch.
Os byddwch yn darganfod eu bod wedi bod yn cario arf, byddwch bron yn sicr yn cwestiynu pam. Os ydynt yn fodlon siarad am y peth, efallai y byddant yn rhoi nifer o resymau i chi:
Beth bynnag yw’r rheswm, mae’n debygol y bydd ganddo rywbeth i’w wneud ag ofn. Hyd yn oed os nad ydynt yn cyfaddef hynny, bydd person ifanc sy’n ymwneud ag arfau yn teimlo’n ofnus ac yn edrych dros ei ysgwydd yn barhaus. Byddant yn aros i’r heddlu eu stopio a’u chwilio, neu i gael eu hwynebu gan eraill, ac yn y diwedd byddant yn ddiolchgar am ‘lwybr allan’ o’r ffordd honno o fyw.
Mae canlyniadau a pheryglon troseddau cyllyll a dod yn rhan o droseddu yn real.
Weithiau gall cael sgyrsiau anodd, er y gallent fod yn anghyfforddus ar y pryd, fod yn hanfodol i atal rhywbeth mwy difrifol rhag digwydd. Er enghraifft - mae dweud wrth rieni rhywun eich bod yn meddwl bod eu mab neu ferch yn cymryd rhan mewn rhywbeth na ddylent, neu gael sgwrs anodd gyda’ch plentyn, yn well na gorfod ymweld â nhw yn yr ysbyty neu fynychu eu hangladd; neu bydd dweud wrth yr heddlu bod ffrind yn cario cyllell yn well na gweld eich cyfaill yn cael ei drywanu neu ei wylio yn trywanu rhywun arall.
Er mai dyna’r sefyllfa waethaf bosibl – dyma’r realiti llym ac rydym am wneud popeth o fewn ein gallu i atal unrhyw beth o’r fath rhag digwydd i berson ifanc arall. Helpwch ni i’w helpu nhw.
Nid yw bod yn ffrind neu riant da bob amser yn hawdd. Ond mae yna lawer o lefydd y gallwch fynd i gael help - naill ai i ffrind neu i chi’ch hun. Gallwch siarad â rhieni, athrawon, gweithwyr ieuenctid, elusennau amrywiol neu’r heddlu a all ddarparu cefnogaeth i chi, er mwyn paratoi ar gyfer sgyrsiau anodd ac yna i’ch cefnogi wedi hynny.
Darganfyddwch fwy am bwy allwch chi siarad â nhw.
Os ydych yn rhiant - siaradwch â rhieni ffrindiau eich plentyn. Os ydych chi’n poeni, mae’n debyg eu bod hwythau hefyd. Efallai y byddant yn gweld eich plentyn chi mewn gwahanol leoedd, yn cadw cwmni i wahanol ffrindiau a gallent eich helpu i gael gwell dealltwriaeth o’r sefyllfa. Trwy gydweithio fe allech godi ymwybyddiaeth.
Os ydych yn ffrind – gallwch siarad â rhieni eich ffrind, eu hathrawon, gwasanaethau cymdeithasol neu’r heddlu.
Beth bynnag yw eich perthynas, os ydynt mewn perygl – dywedwch wrth rywun.
Os ydych yn meddwl y gallai fod mwy i’r sefyllfa na digwyddiad unwaith yn unig ac efallai bod y ffaith eu bod yn cael eu bygwth neu eu hanafu gan arf yn ymwneud â throseddau gangiau; neu y gofynnir i’ch plentyn/ffrind wneud pethau i gang, yna mae angen i chi siarad â’r heddlu a gallwn ddechrau cymryd camau i amddiffyn pobl a lleihau’r risg iddynt. Gallech hefyd drosglwyddo gwybodaeth yn ddienw drwy Crimestoppers.
Mae yna hefyd weithwyr proffesiynol wedi’u hyfforddi a all gynnig cymorth, cyngor a chwnsela cyfrinachol i chi a’ch plentyn. Anogwch eich plentyn i siarad â Childline ar 0800 1111 os ydych chi’n teimlo na allwch roi’r cymorth y gallai fod ei angen arnynt.
Darganfyddwch fwy am bwy allwch chi siarad â nhw
Efallai y bydd pobl yn cario cyllell neu’n ymwneud â throseddau am lawer o wahanol resymau, ac nid un peth neu fater penodol sy’n gyfrifol am hyn. Fodd bynnag, gwyddom fod trais a throseddau cyllyll yn aml yn ganlyniad materion eraill fel delio cyffuriau, troseddau trefniadol a diwylliant gangiau.
Weithiau bydd pobl sy’n ymwneud â throseddu yn cymryd mantais o bobl ifanc ac yn rhoi pwysau arnynt i wneud pethau na fyddent fel arfer yn eu gwneud megis helpu i werthu cyffuriau, cario arfau neu ddwyn, sydd i gyd yn rhoi pobl ifanc mewn perygl.
Mae’r tactegau y mae’r bobl hyn yn eu defnyddio yn glyfar, ac efallai na fydd rhywun yn deall eu bod yn cael eu camddefnyddio i ddechrau gwneud pethau a allai eu rhoi mewn perygl. Gwyddom fod y rhan fwyaf o bobl eisiau teimlo eu bod yn boblogaidd ac yn rhan o grŵp.
Mae gangiau a throseddwyr yn defnyddio tactegau sy’n gwneud i bobl ifanc deimlo y gofalir amdanynt, neu y byddant yn ennill parch neu arian. Maent yn addo amddiffyniad, yn prynu anrhegion megis esgidiau chwaraeon neu ffonau neu’n rhoi benthyg arian iddynt. Ond mae hyn yn golygu bod y person ifanc wedyn mewn dyled iddynt ac y bydd angen dychwelyd y ffafr – fel cario arfau neu werthu cyffuriau. Nid oes ganddynt unrhyw broblem gyda gwneud arian trwy roi person ifanc mewn perygl.
Gall gwybod pa arwyddion i sylwi arnynt olygu y gallwch chi helpu ffrind cyn ei bod hi’n rhy hwyr – cyn iddynt gael eu brifo neu wneud rhywbeth y byddant yn ei ddifaru ac yn mynd i drafferthion difrifol. Gwyddom fod rhai pobl ifanc wedi gwneud penderfyniadau byrbwyll yn ddifeddwl sydd, yn anffodus, wedi newid eu bywydau am byth. Darganfyddwch fwy o wybodaeth am yr arwyddion i sylwi arnynt.
Os ydych yn poeni ac eisiau cymorth i gadw naill ai person ifanc neu chi eich hun yn ddiogel, gallwch gysylltu â’r sefydliadau canlynol: