Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ydych chi dan bwysau i ddelio cyffuriau neu gario cyllell, gwn neu arf arall? Ydych chi eisoes yn gysylltiedig â gang neu droseddu? Ydych chi eisoes yn cario cyllell?
Os ydych, efallai y byddwch yn teimlo bod eich bywyd allan o reolaeth, eich bod yn edrych dros eich ysgwydd drwy’r amser ac nad oes ffordd allan. Efallai y byddwch yn meddwl y bydd hi’n waeth ceisio dod allan o gang a bod angen i chi gario arf i’ch amddiffyn. Y gwir yw, mae’n fwy peryglus dal ati fel yr ydych ar hyn o bryd. Ond rydych chi yma yn chwilio am help, sy’n ddechrau da ac mae yna lawer o sefydliadau ac elusennau sydd eisiau eich helpu.
Mae llawer o help a chefnogaeth ar gael.
Os ydych chi’n poeni am eich diogelwch, siaradwch â rhywun - rhiant, athro, athrawes, gweithiwr ieuenctid neu swyddog heddlu er enghraifft. Nid oes unrhyw un eisiau eich gweld chi’n cael eich brifo.
Os nad ydych yn teimlo y gallwch siarad â’ch rhieni, athro, athrawes neu’r heddlu, siaradwch â gweithiwr proffesiynol yn gyfrinachol. Gallai ChildLine fod yn alwad gyntaf i chi ar 0800 1111 – gall y cwnselwyr gefnogi pobl ifanc 24 awr y dydd.
Mae’r heddlu’n poeni am bobl ifanc a byddai’n well ganddynt bob amser atal trosedd yn hytrach na chanfod trosedd gan fod hyn yn golygu bod rhywbeth wedi digwydd i rywun. Nid ydynt byth eisiau gweld person ifanc yn cael ei frifo neu mewn trafferth os gellir atal hynny. Byddant bob amser yn helpu os bydd rhywun yn teimlo dan fygythiad, ofn neu’n meddwl eu bod mewn perygl o niwed.
Os ydych chi wedi dioddef trosedd cyllyll neu ynnau, mae’n debyg eich bod yn mynd trwy gymysgedd eang o emosiynau - ofn, dicter, poen. Efallai ei fod yn ymosodiad ar hap, neu efallai eich bod mewn gang a bod hynny’n mynd i ddigwydd yn hwyr neu’n hwyrach. Efallai eich bod yn cael eich bwlio a bod y bwlio wedi gwaethygu’n fawr.
Heb os, cael eich anafu gan gyllell neu wn yw un o’r pethau gwaethaf sydd wedi digwydd i chi. Gall hyd yn oed cael eich bygwth ag arf fod yn hynod o frawychus. Peidiwch â bod ag embaras gofyn am help – mae angen cymorth arnoch ac mae llawer o ffyrdd y gallwch siarad â rhywun yn ddienw.
Os nad yw’r heddlu wedi cael gwybod yn barod, yna dylech chi neu rywun sy’n agos atoch gysylltu â nhw ar unwaith drwy siarad â’ch Swyddog Cyswllt Ysgolion, eich Tîm Plismona Bro, neu drwy fynd i’ch gorsaf heddlu agosaf.
Os yw’n argyfwng, a’ch bod yn dal i deimlo eich bod mewn perygl, mae angen i chi ffonio 999 nawr.
Os nad ydych am wneud yr alwad i’r heddlu neu ei riportio ar-lein, siaradwch â rhywun megis rhiant neu athro - gallant wneud yr alwad ar eich rhan.
Hefyd, nid oes raid i chi siarad â’r heddlu os nad ydych eisiau. Gallech ffonio elusen Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111. Bydd eich galwad yn cael ei thrin yn gwbl gyfrinachol – nid oes angen i chi roi eich enw, ac ni fydd eich galwad yn cael ei holrhain.
Os ydych wedi cael eich bygwth ond heb eich anafu, mae’n dal i fod yn fater i’r heddlu a rhaid ei riportio er eich diogelwch eich hun.