Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gall trosglwyddo gwybodaeth i sefydliadau megis Crimestoppers neu Fearless nid yn unig helpu ar ôl trosedd neu ddigwyddiad, ond yn hollbwysig atal rhywbeth rhag digwydd.
Gallai hyn olygu y gall rhywun gael ei arbed rhag cael ei frifo, neu ei helpu cyn iddo gyflawni trosedd a mynd i’r system cyfiawnder troseddol.
Mae’r heddlu’n poeni am bobl ifanc a byddai’n well ganddynt bob amser atal trosedd yn hytrach na’i chanfod gan fod hyn yn golygu bod rhywbeth wedi digwydd i rywun. Nid ydynt byth eisiau gweld person ifanc yn cael ei frifo neu mewn trafferth os gellir atal hynny. Byddant bob amser yn helpu os bydd rhywun yn teimlo dan fygythiad, ofn neu’n meddwl eu bod mewn perygl o niwed.
Mae Fearless yn rhan o elusen Crimestoppers. Gallwch gysylltu â’r ddau fudiad yn gwbl ddienw ac maent yn gwbl annibynnol ar yr heddlu.
Nid ydynt byth yn gofyn am eich enw, ni allant olrhain eich galwad nac unrhyw ddyfais electronig megis eich ffôn neu gyfrifiadur ac nid oes neb byth yn gwybod eich bod wedi trosglwyddo gwybodaeth.
Gallai gwybodaeth hollbwysig gynnwys:
Os oes gennych chi wybodaeth neu os ydych chi’n poeni am eich diogelwch eich hun neu ddiogelwch ffrind neu aelod o’r teulu – dywedwch.
Gallwch gysylltu â’ch tîm plismona bro neu gallwch ffonio 101 a gofyn i gael siarad â’ch heddlu lleol.
Os nad ydych eisiau siarad â’r heddlu yna cysylltwch â naill ai Crimestoppers neu Fearless.
Gallwch hefyd gael cyngor ar wahanol fathau o droseddau a darllen am ganlyniadau posibl dod i gysylltiad â’r broses gyfreithiol.