Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
1. Yr ymchwiliad |
2. Eich hawliau yn ystod yr ymchwiliad |
3. Cyfeirio achos at Wasanaeth Erlyn y Goron |
4. Beth sy'n digwydd os bydd achos sbeicio yn mynd i dreial |
Rydyn ni’n ofalus iawn i sicrhau anhysbysrwydd pobl rhag y wasg a’r cyhoedd. Ond mae rhai pethau y bydd angen i ni o bosibl eu rhannu â phobl eraill:
Gallai’r tystion rydyn ni’n siarad â nhw gynnwys unrhyw un a welodd neu a glywodd rhywbeth. Neu unrhyw un rydych chi wedi siarad â nhw am y digwyddiad.
Weithiau byddwn yn cyhoeddi datganiad i’r wasg am achos i chwilio am dystion neu bobl eraill a allai fod wedi dioddef wrth law’r un troseddwr. Ond ni chewch eich enwi’n gyhoeddus gan yr heddlu ac rydyn ni’n brofiadol iawn o ran sicrhau anhysbysrwydd.
Mae hawl gennych i gael eich trin gyda pharch ac urddas drwy’r amser. Ond rydyn ni’n gwybod y gallai eich profiad weithiau deimlo’n annheg, yn ansensitif, neu’n waeth na hynny.
Os bydd hyn yn digwydd i chi, rydyn ni eisiau eich cefnogi a gwella pethau. Os na allwn ni wneud hynny, rydyn ni eisiau ei gwneud hi mor hawdd â phosibl i chi ein dal i gyfrif.
Os nad ydych chi’n hapus â’n penderfyniad i beidio â chyhuddo rhywun neu drosglwyddo eich achos i Wasanaeth Erlyn y Goron, efallai y gallwch ddefnyddio Cynllun Hawl Dioddefwyr i Adolygiad.
Os nad ydych yn hapus â rhywbeth arall yn y ffordd rydyn ni wedi eich trin, gallwch wneud y canlynol:
Os ydych chi’n penderfynu nad ydych am fwrw ymlaen â’r ymchwiliad, gallwch gamu nôl neu roi’r gorau iddi unrhyw bryd. Gallwch ofyn i’ch achos gael ei ailagor eto yn nes ymlaen os byddwch yn newid eich meddwl.
Hyd yn oed os byddwch yn penderfynu tynnu'n ôl, gall eich adroddiad ein helpu i atal pobl rhag troseddu yn y dyfodol.