Cyflwynwyd adroddiad i’r heddlu mewn perthynas â phibellau copr ac estyll yn cael eu cymryd o eiddo gwledig gwag yn ardal Bugeildy. Crëwyd trosedd ac ymchwiliwyd i’r tramgwydd o fwrglera.
Ar 16 Mai, derbyniwyd adroddiad gan ffermwr yn ardal Bugeildy am ladrad dros 1000m o gebl trydan o sied ieir. Cofnodwyd byrgleriaeth ac ymchwiliwyd i’r mater. Cynhaliwyd ymweliad dilynol gan y Tîm Troseddau Gwledig, gan gynnwys arolwg atal trosedd.
Derbyniwyd adroddiad ym mis Ebrill mewn perthynas â lladrad hen emwaith o safle busnes yn ardal Trefyclo. Cofnodwyd trosedd byrgleriaeth a chynhaliwyd ymchwiliad.
Ar 29 Ebrill, aed â dau feic cwad o eiddo gwledig yn ardal Trefyclo – gydag ymgais i ladrata yn yr un lleoliad ar 23 Ebrill. Cofnodwyd trosedd byrgleriaeth a chynhaliwyd ymchwiliad mewn partneriaeth â’r Tîm Troseddau Gwledig.
Mae swyddogion sydd wedi’u hyfforddi mewn atal trosedd o’r Tîm Plismona Bro lleol a’r Tîm Troseddau Gwledig yn parhau i roi cyngor atal trosedd am ddim a chynnal arolygon ac ymweliadau dilynol â dioddefwyr troseddau gwledig fel y rhai a restrir er mwyn hyrwyddo diogelwch a mesurau targedu dwys mewn ardaloedd gwledig ac atal dioddefwyr mynych.
Mae gwaith partneriaeth parhaus hefyd yn mynd rhagddo rhwng Heddlu Dyfed-Powys a heddluoedd cyfagos er mwyn targedu troseddau gwledig a throseddau sy’n gysylltiedig â throseddwyr teithiol ac aflonyddu arnynt.