Rhybudd – Gochelwch rhag eiddo rhent yn cael ei ddefnyddio i gynnal partïon anghyfreithlon
Mae Fforwm Lleol Cymru Gydnerth Dyfed-Powys yn cydweithio er mwyn amddiffyn cymunedau mewn perthynas â grwpiau mawr yn aros mewn eiddo rhent. Mae’r Fforwm - sy’n cynnwys cynrychiolwyr o’r gwasanaethau brys, byrddau iechyd a chynghorau lleol - yn apelio ar berchnogion yn dilyn digwyddiad lle y defnyddiwyd fferm ar rent i gynnal parti anghyfreithlon tebyg i rêf, yn gwbl groes i’r rheolau coronafeirws. Heb ymyrraeth gyflym gan yr heddlu, mae’n debygol y byddai’r nifer a oedd yno wedi cynyddu’n gyflym. Dywedodd yr Uwch-arolygydd Anthony Evans, comander rhanbarthol Sir Benfro, “Yr ydym yn apelio ar i berchnogion eiddo rhent fod yn ymwybodol o’r peryglon posibl sy’n gysylltiedig â rhentu dros gyfnod y Nadolig ac yn y cyfnod yn arwain at hynny. “Rwy’n annog perchnogion eiddo i fod yn broffesiynol chwilfrydig wrth ymgysylltu â chwsmeriaid posibl er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth. “Mae’r cynulliadau hyn yn rhoi bywydau’r rhai sy’n mynd iddynt, a’r cymunedau lleol, mewn perygl. Byddwn yn annog preswylwyr a pherchnogion eiddo i fod yn wyliadwrus er mwyn helpu i atal y feirws rhag lledaenu.” Am gyngor penodol gan Lywodraeth Cymru, galwch heibio i: https://llyw.cymru/canllawiau-ar-adael-eich-cartref-gweld-pobl-eraill-coronafeirws#section-55528 Fforwm amlasiantaeth sydd wedi’i ffurfio mewn ardal heddlu gan ymatebwyr brys allweddol ac asiantaethau cefnogol penodol yw Fforwm Lleol Cymru Gydnerth. Mae’n un o ofynion Deddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004. Mae Fforwm Lleol Cymru Gydnerth yn caniatáu mynediad i fforwm ar gyfer ymatebwyr er mwyn ymgynghori, cydweithio a datgelu gwybodaeth i hwyluso cynllunio ar gyfer argyfyngau ac ymateb iddynt, a chynhyrchu cofrestr risgiau cymunedol. Neges ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol: Perchnogion llety gwyliau’n cael eu rhybuddio i fod yn ofalus ynghylch pobl sy’n archebu llety ar gyfer partïon er waethaf y cyfyngiadau coronafeirws.