Cofeb Newydd i Anrhydeddu Swyddogion Heddlu Dyfed-Powys a fu Farw
Bydd swyddogion a staff heddlu dewr o Heddlu Dyfed-Powys a heddluoedd eraill ar draws y wlad, a fu farw wrth amddiffyn y cyhoedd, yn cael eu coffáu mewn cofeb barhaol a fydd yn cael ei dadorchuddio ddydd Mercher 28 Gorffennaf yn y Goedardd Goffa Genedlaethol yn Swydd Stafford.