Heddlu Dyfed-Powys yn ymuno ag Ymgyrch Soteria Bluestone i wella ymagwedd y DU tuag at ...
Mae'r llu yn un o 14 gwasanaeth heddlu i ymuno â’r rhaglen ehangu ar gyfer Ymgyrch Soteria Bluestone, sef rhaglen ymchwil a newid a arweinir gan Gyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu. Mae’r cynllun yn anelu i drawsnewid ymateb yr heddlu i droseddau rhywiol difrifol a threisio.