Dyn yn pledio’n euog ar ôl i swyddogion ddod o hyd i 350 o blanhigion canabis yn Llanelli.
Arestiwyd Pllumb Krosi, 34 oed, ddydd Mercher 30 Ebrill ar ôl i swyddogion o Dîm Plismona Achosion Difrifol Sir Gaerfyrddin ddefnyddio grym i gael mynediad i eiddo ar Stryd Vaughan, Llanelli, i weithredu gwarant gyffuriau a oedd wedi’i threfnu ymlaen llaw.